Home » Llywodraeth Cymru yn dangos cefnogaeth i gyhoeddi
Cymraeg

Llywodraeth Cymru yn dangos cefnogaeth i gyhoeddi

Elin Jones AC: Gydag awduron a chyhoeddwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol
Elin Jones AC: Gydag awduron a chyhoeddwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol
Elin Jones AC: Gydag awduron a chyhoeddwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol

Y CYNGOR LLYFRAU wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd yn cael toriad mewn cyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf ac yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a ddangosir yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.

“Yn naturiol, y mae hi wedi bod yn gyfnod pryderus i’r Cyngor ac i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, “gan ein bod yn ofni’r effaith ar y ddarpariaeth bresennol o ran dewis a safon y llyfrau.”

Bu nifer o awduron Cymraeg a Saesneg yn mynegi eu gofid am y toriadau arfaethedig ac mae’r Cyngor Llyfrau yn hynod ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog, Ken Skates, am fod mor barod i ystyried y dystiolaeth ac i ymateb mewn ffordd bositif.

“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r diwydiant cyhoeddi wedi ymgyrraedd at gymunedau o ddarllenwyr ar draws ffiniau cymdeithasol a daearyddol Cymru”, meddai’r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau. “Gyda’n gilydd rydym wedi ategu llyfrau print gydag e-lyfrau, sicrhau twf yn y diddordeb mewn llyfrau o Gymru, wedi meithrin awduron a chefnogi rhwydwaith o fusnesau ffyniannus, yn gyhoeddwyr ac yn llyfrwerthwyr. Y mae llyfrau o Gymru hefyd yn asgwrn cefn i’r sector addysg a’r llyfrgelloedd fel ei gilydd.”

Ychwanegodd Elwyn Jones, “Mewn cyfnod o gyni rydym yn gwerthfawrogi hyder y Llywodraeth yn ein gwaith a byddwn yn mynd ati’n egnïol i gefnogi’r diwydiant ac i hyrwyddo llyfrau yn y ddwy iaith. Byddwn hefyd yn parhau gyda’n hymdrech i ganfod ffynonellau ariannol eraill i gynnal a datblygu’n gwaith.”

Author