Home » Merched y Wawr, Cangen Hwlffordd
Cymraeg

Merched y Wawr, Cangen Hwlffordd

Merched y Wawr, Cangen Hwlffordd
Merched y Wawr, Cangen Hwlffordd
Merched y Wawr, Cangen Hwlffordd

DAETH nifer dda o aelodau i’r cyfarfod nos Lun, 4 Ionawr yn Neuadd yr Eglwys, Prendergast. Angela Davies , ein llywydd, oedd yn y gadair, a Penny Thomas yr ysgrifennydd, wrth ei hochr yn cadw trefn ar y gwaith papur. Braf oedd croesawu wynebau newydd i’r cyfarfod.

Talwyd teyrnged unwaith eto gan y llywydd i Dilys Parry, a fu farw yn ddisymwth fis Tachwedd. Roedd Dilys yn un o’r aelodau gwreiddiol a sefydlodd y gangen yn 1971, ac yn gefn i’n gweithgareddau oddiar hynny. Byddwn i gyd yn gweld eisiau ei brwdfrydedd, ei gallu a’i hwyl, ac yn rhoi diolch am ei hadnabod.

Doedd y siaradwr a oedd i fod i ddod ddim wedi medru bod yn bresennol. Ar fyr rybudd daeth Simon Moffett i siarad am “Bobl Anhygoel”. Mae Simon yn un o swyddogion Fforwm Hanes Cymru. Soniodd am aelodau o deuluoedd brenhinol Cymreig, gan gynnwys y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffydd (y Llyw Olaf) a gadwyd drwy ei hoes yn lleian yn swydd Lincoln dan orchymyn Edward I, brenin Lloegr, a’i chyfnither y Dywysoges Gwladus a gadwyd mewn lleiandy arall yn yr un sir. Tynged gwaeth oedd i frodyr Gwladus. Cawsant hwythau eu cadw weddill eu hoes mewn cewyll yng nghastell Bryste. Cafwyd hanes hefyd Owain Lawgoch, a oedd yn filwr yn Ffrainc ac a lofruddiwyd dan orchymyn brenin Lloegr.

Roedd Owain yn wŷr i Rhodri, brawd y Llyw Olaf. Y “Bobl Anhygoel” oedd y rhai a fu wrthi’n dod ȃ chof y rhain yn fyw. Codwyd cofeb i Gwenllian ar safle’r lleiandy lle cafodd ei charcharu, ac ar gopa’r Wyddfa, a chodwyd chofeb ger y man ger Bordeaux yn Ffrainc lle lladdwyd Owain. Mae Fforwm Hanes Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod ein hanes ninnau yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar 1af Chwefror. Y parafeddyg Alan Thomas fydd y siaradwr. Ei destun fydd ‘Cymorth Cyntaf’.Bydd croeso i unrhyw ferch sydd am ymarfer ei Chymraeg, boed wedi ei magu i siarad yr iaith, neu wedi dysgu, ymuno ȃ ni.

Author