Home » Mae angen i gymunedau gwledig ‘Cymraeg i Blant’
Cymraeg

Mae angen i gymunedau gwledig ‘Cymraeg i Blant’

Screen Shot 2016-04-04 at 14.14.08MAE AELODAU Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin wedi condemnio Llywodraeth Cymru am fod yn gyfrifol am amddifadu cymunedau gwledig Cymraeg y sir o wasanaethau ‘Cymraeg i Blant’, ac am ddileu swyddi nifer o weithwyr allweddol ‘ Twf ‘ yn yr ardaloedd gwledig.

Meddai Ffred Ffransis ar rany rhanbarth: “Bydd y gwasanaeth newydd – gyda llai o weithwyr – yn gyfyngedig i Dde-Dwyrain y sir, a does neb yn gallu dweud ble yn union mae’r ardal hon.

Yr hyn sy’n sicr yw fod holl gymunedau gwledig Cymraeg yn y sir yn cael eu hamddifadu o wasanaeth “Cymraeg i Blant” a wnaeth gymaint i gymhathu plant mewnfudwyr i’r cymunedau hyn. Mae rhwydwaith o weithwyr prosiect “Twf” wedi colli swyddi o ganlyniad.

Ychwanegodd “Yr ydym yn falch y bydd prosiect o’r fath yn weithredol rywle yn ardal Llanelli, ond galwn ar Gyngor Sir Gar i bwyso ar y llywodraeth am adnoddau ychwanegol i sicrhau fod y gwaith yn parhau i integreiddio plant mewnfudwyr i’n cymunedau Cymraeg hefyd. Yr ydym yn arbennig o siomedig na bu unrhyw drafod cyhoeddus am y blaenoriaethau, a bod y drefn newydd yn dod i rym y mis nesaf heb fod neb yn sicr o’r hyn sy’n digwydd”

Mewn llythyr at y Prif Weinidog mae Cymdeithas yr Iaith Fel y gwyddoch, mae’r strategaeth ‘Bwrw ‘Mlaen’ yn pwysleisio pwysigrwydd trosglwyddiad iaith o fewn y teulu ac ati, ac yn nodi wrth gyfeirio at Twf “… rydym yn awyddus i adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol a’i ddatblygu’n rhaglen genedlaethol”. Cytunwn ynghylch pwysigrwydd aruthrol trosglwyddiad iaith yn y teulu a’i ddatblygu’n brosiect genedlaethol.

Mae’r llythyr yn holi sut dewiswyd yr ardaloedd ac a fyddai posibl cynnwys ardaloedd eraill.

Author