Home » Mae Ras Yr Iaith yn Ôl!
Cymraeg

Mae Ras Yr Iaith yn Ôl!

WELSH123CYNHELIR ail Ras yr Iaith  rhwng 6 a 8 Gorffennaf 2016lle bydd  pobl Cymru yn rhedeg drwy 25 tref a  phentref rhwng Bangor a Llandeilo, o’r  Gogledd i’rDe, gan uno’n gwlad gyda  Baton yr Iaith.  Ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf 2016,  bydd Ras yr Iaith2016 yn rhedeg drwy  Geredigion gan roi’r cyfle ibawb ddathlu’r  iaith drwy fod yn rhan o ras hwyl gyfnewid.  Nid ras i athletwyr yw Ras yr Iaith  ond ras dros y Gymraeg gan bobl Cymru.

Cynhaliwyd y Ras gyntaf yn 2014, gyda’i  phwrpas i ddathlu’r Gymraeg, codi  ymwybyddiaeth o’r iaith, a dangos i’r  byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr  gwlad. Cofiwch, mae’n agored i bawb –  siaradwyr rhugl, dysgwyr a phawb sy’n  cefnogi’r iaith.  Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir  Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap  Gwynn, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn  awyddus iawn i fod yn rhan o Ras yrIaith  eleni, yn enwedig yn dilyn llwyddiant  ysgubol yras yn 2014. Cydlynir llwybrau  Ceredigion gan Cered, ein Menter Iaith  ni, sydd â rhwydwaith o grwpiau ac  arbenigedd mewn cysylltu gyda phobl  o bob cefndir. Mae’n gyfle i dynnu ein  cymunedau ynghyd i hybu, hyrwyddo a  dathlu’r Gymraeg mewn modd hwyliog  sy’n agored i bawb.

Bydd llwyddiant  y ras yn dangos brwdfrydedd trigolion  Ceredigion i weld ffyniant yn ein  cymunedau a’r iaith Gymraeg.”  Bydd y baton, sydd wedi cael  ei gerfio’n arbennig i’rras, yn cael ei  drosglwyddo o law i law, wrth i redwyr  ddangos eu cefnogaeth i’r iaith. Bydd  unigolion, teuluoedd, busnesau a chlybiau  lleol, sefydliadau ac ysgolion yn noddi ac  yn rhedeg 1 cilomedr gan gario baton. Gall  holl ddisgyblion yr ysgol neu holl aelodau  tîm pêl-droed y pentref redeg yr 1 cilomedr  hwnnw.  “Mae’n amser i garedigion y Gymraeg  ddod at ei gilydd, a dangos ychydig o hwyl  dros yr iaith. ByddRas yr Iaith yn ffordd  wych i dynnu pobl at ei gilydd a dathlu ein  bod ni yma o hyd!” meddai Siôn Jobbins  sydd wedi rhedeg yn y rasus llwyddiannus  tebyg dros y Llydaweg, Gwyddeleg a  Basgeg.

Bydd y Ras yn dechrau yng  Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth  ar 7 Gorffennaf am 9.15y.b. gan ymweld  â Thregaron (11.15 y.b.), Llambed (12:30  y.p.), Aberaeron (2 y.p.), Cei Newydd (3  y.p.), Llandysul (4.30 y.p.), Castell Newydd  Emlyn (5.30 y.p.) ac Aberteifi (6.30 y.h.).  Bydd Yvonne Evans, cyflwynwraig  tywydd S4C yn rhedeg cymal Aberaeron  a Tommo, cyflwynydd Radio Cymru yn  rhedeg cymal Aberteifi. Bydd y ras yn  gorffen yng Nghastell Aberteifi, lle bydd  cyfle i chi ymuno. Cynhelir digwyddiad  i ddathlu diwedd y ras yng Ngheredigion  yng Nghastell Aberteifi gydag arlwy o  dalent a cherddoriaeth ar eich cyfer a bydd  mynediad am ddim!

“Mae’n amser dathlu’r Gymraeg  a thynnu ynghyd pobl o bob cefndir a  diddordeb sydd yn cefnogi’r iaith– boed  nhw’n siaradwyr Cymraeg, dysgwyr neu’n  ddi-Gymraeg.” meddai Lynsey Thomas,  Rheolwr Cered, Menter Iaith Ceredigion  sy’n cydlynu’r trefniadau yn y sir.  Yn ystod y Ras yng Ngheredigion  bydd band roc ifanc a chyffrous Y Fflamau  Gwyllt o Ysgol Gynradd Rhos Helyg  yn perfformio gig awyr agored tu allan  i’rTalbot yn Nhregaron am 11:00 y.b. cyn  i’r ras adael y dref. Bydd adloniant ysgafn  yn cychwyn o flaen Neuadd y Dref yn  Aberaeron am 1:30 y.p. cyn cychwyn y ras  yno. Bydd y perfformwyr yn cynnwys Côr  Ysgol Gynradd Aberaeron a Dawnswyr  Gwerin Ysgol Gyfun Aberaeron.  Recordiwyd cân yn arbennig ar  gyfer Ras yr Iaitheleni gan Dewi Pws.

Fe hefyd fydd yn sylwebu ar hyd y ras  gan annog rhedwyr a chefnogwyr i gael  hwyl. Llysgenhadon y Ras eleni yw  Lowri Morgan, Angharad Mair ac Owain  Gwynedd.  Yn ogystal â’r uchod, bydd  digwyddiadau yn cael eu cynnal o  gwmpas y Ras. Ar nos Fercher, 6  Gorffennaf, cynhelir ‘Noson Lles i Bawb’  yn y Bandstand yn Aberystwyth. Bydd y  digwyddiad hwn yn cynnwys sgwrs wedi’i  gadeirio gan Deian Creunant yng nghwmni  Owain Gwynedd sy’n gyflwynydd S4C a  dyfarnwr, Steffan Hughes sy’n dywysydd  Paralympaidd, a’r rhedwr profiadol Dic  Evans, a fydd yn rhedeg Ras yr Iaith eleni  o’rGogledd i’r De.

Bydd y digwyddiad  hefyd yn cynnwys sesiwn cadw’n heini  gyda Bridget James er mwyn paratoi pawb  ar gyfer y Ras ar y diwrnod canlynol.  Mae cyfle i bawb fod yn rhan o’r  Ras, un ai trwy redeg, noddi, neu gefnogi  – does dim esgus i beidio â bod yn rhan o’r  dathliad gwych hwn o’r iaith. Os ydych yn  awyddus i fod yn rhan o fwrlwm y Ras,  cysylltwch â Cered am fwy o wybodaeth  [email protected].  Am fwy o wybodaeth am Ras yr Iaith,  ewch i http://rasyriaith.cymru

 

Author