Home » Cynllun Marshall i ail-godi economi Cymru
Cymraeg

Cynllun Marshall i ail-godi economi Cymru

Mae Cymru yn wynebu heriau na welwyd: Adam Price
Mae Cymru yn wynebu heriau na welwyd: Adam Price
Mae Cymru yn wynebu heriau na
welwyd: Adam Price

YN DILYN y penderfyniad i adael yr UE, mae ar Gymru angen Cynllun Marshall i ail-godi economi Cymru, dywedodd Gweinidog Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid a’r Economi, Adam Price.

Dadleuodd Adam Price na ddylai Cymru golli ceiniog o arian strwythurol o ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr UE.

Dywedodd fod angen Cynllun Marshall triphlyg i amddiffyn buddiannau economaidd Cymru.

Byddai’r cynllun triphlyg yn cynnwys polisi rhanbarthol newydd i’r DG fyddai’n fwy hael na chronfeydd strwythurol yr UE, er mwyn cau’r bwlch ffyniant sydd wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ar bymtheg ddiwethaf.

Byddai hefyd yn cynnwys pwerau dros drethi busnes er mwyn rhoi i Gymru fantais gystadleuol; wrth i ni geisio cryfhau’r economi, megis treth gorfforaeth a phwerau eraill, dros gredydau treth Y&D a lwfansau cyfalaf.

A dylai Llywodraeth Cymru hefyd fanteisio i’r eithaf ar ei buddsoddiadau seilwaith trwy fodelau nid-am-elw. Mae hyn yn cynnwys galluedd benthyca trwy CSCC a Banc Datblygu Busnes Cymru, a Banc Buddsoddi newydd i Ynysoedd Prydain yn lle’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd , a ddylai, yn ôl Plaid Cymru, gael ei leoli yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gweinidog Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid a’r Economi, Adam Price: “Mae’n iawn i Gymru beidio â cholli ceiniog o golli arian strwythurol oherwydd iddynt orfod gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae arnom angen mwy o fecanweithiau a chefnogaeth economaidd fel y gallwn ymdrin â’r diffyg cyllidol sy’n ein hwynebu.

“Mae ar Gymru angen Cynllun Marshall ar gyfer economi Cymru. Dylai hynny gynnwys nid yn unig gronfeydd ychwanegol ond hefyd bwerau treth newydd a allai roi mantais gystadleuol i Gymru wrth i ni geisio cryfhau ein heconomi a rhoi iddo’r gefnogaeth angenrheidiol.

“Yn ychwanegol at hyn, dylai Llywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o fodelau nid-am-elw o gyllido buddsoddiad fel y gallwn ddwyn gerbron fuddsoddiad mewn seilwaith i hybu’r economi ar draws Cymru benbaladr.

“Mae Cymru yn wynebu heriau na welwyd erioed mo’u bath i’n sefyllfa ariannol. Mae arnom angen Cynllun Marshall i’n llywio drwy’r amseroedd anodd hyn.”.

online casinos UK

Author