Home » Mynd yn addas ar gyfer y dyfodol
Cymraeg

Mynd yn addas ar gyfer y dyfodol

Screen Shot 2016-04-25 at 14.27.59MAE CHWARAEON Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi lansio Glasbrint newydd ar gyfer creu cyfleusterau modern, addas i bwrpas, cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer chwaraeon a hamdden egnïol ledled Cymru.

Datblygwyd Cyfleusterau ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol:

Glasbrint ar gyfer chwaraeon a hamdden egnïol yng Nghymru gan ymgynghori â phartneriaid allweddol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a Sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru.

Ei nod yw bod yn fan cyfeirio fel sail i benderfyniadau tymor hir a chynaliadwy ynghylch cynllunio, darparu a chynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon a hamdden.

Dywedodd Graham Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Chwaraeon Cymunedol yn Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni’n gwybod y bydd cael cyfleusterau cynaliadwy, o ansawdd uchel, yn allweddol er mwyn annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach.

“Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid cynllunio yn y tymor hir fel ein bod ni’n gallu bod yn siŵr bod y cyfleusterau’n diwallu anghenion cymunedol yn llawn, nawr ac yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni bennu ‘profiadau cyntaf’ o ansawdd uchel fel blaenoriaeth allweddol a dyma pam mae sicrhau darpariaeth briodol ar lefel ysgol mor bwysig, ochr yn ochr â chanolbwyntio ar ddatblygu cyfleusterau sy’n cynnal y brwdfrydedd hwnnw dros chwaraeon yn yr ysgol pan mae pobl wedi aeddfedu i fod yn oedolion.

“Pwrpas y casgliadau a’r argymhellion yw herio a dylanwadu’n gadarnhaol ar benderfyniadau yn y dyfodol. Rydyn ni’n cydnabod bod angen newid mawr yn y dull o ddarparu cyfleusterau ond rydyn ni’n hyderus y bydd eu hymgorffori yn y gwaith cynllunio’n arwain at gyfleusterau modern, cynhwysol, hygyrch ac effeithlon sy’n diwallu anghenion lleol ac yn annog mwy o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Rydyn ni eisiau annog mwy o bobl i fod yn egnïol yn gorfforol ac, yn bwysicach na dim, mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod pawb yn cael mynediad rhwydd i gyfleusterau chwaraeon a hamdden sydd o ansawdd uchel ac sy’n diwallu anghenion cymunedau.

“Rydyn ni’n cydnabod bod hwn yn gyfnod ariannol heriol ond mae’n bwysig ein bod ni’n gweithredu nawr er mwyn sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol gyfleusterau priodol yn y llefydd priodol, er mwyn gallu goresgyn unrhyw rwystrau sy’n atal cymryd rhan. Nod y glasbrint yw cynghori pawb sy’n ymwneud â dylunio, rheoli a chyllido cyfleusterau chwaraeon a hamdden i feddwl yn wahanol a chynllunio’n strategol fel bod pobl o bob gallu, oedran a chefndir yn gallu mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon ac elwa o’u manteision.”

Mae profiad o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn flaenoriaeth allweddol wrth i Chwaraeon Cymru edrych tua dyfodol chwaraeon cymunedol yng Nghymru. Mae’r Glasbrint yn cyd-fynd â gwefan newydd ar gyfer chwaraeon cymunedol – www.ourambitiousjourney.sport.wales – a lansiwyd yr wythnos hon gan Chwaraeon Cymru ac sy’n gweithredu fel adnodd rhyngweithiol seiliedig ar ddata.

online casinos UK

Mae’n darparu canolfan adnoddau i bartneriaid yn y byd chwaraeon, llywodraeth leol, addysg, y sector preifat a’r sector gwirfoddol, i’w defnyddio wrth gynllunio a datblygu chwaraeon cymunedol yng Nghymru.

Author