Home » Gofalwyr yn teimlo’n ynysig
Cymraeg

Gofalwyr yn teimlo’n ynysig

Screen Shot 2016-04-25 at 14.27.22MAE YMDDIRIEDOLAETH Gofalwyr Cymru wedi galw ar wleidyddion i roi sylw i’w pryderon yn dilyn tystiolaeth sy’n dangos bod hanner y bobol sy’n gofalu’n ddidâl am aelod o’r teulu neu ffrind yn teimlo nad oes ganddyn nhw lais.

Mae o leiaf 370,000 o bobol yng Nghymru – sy’n cyfateb i 12% o’r boblogaeth – yn gofalu am rywun sydd â salwch, neu sydd ag anabledd corfforol neu feddwl, neu’n fregus. Dywedodd hanner y bobol a gafodd eu holi gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru nad ydyn nhw’n teimlo bod y Cynulliad yn gwrando arnyn nhw.

Ac roedd llai na thraean o’r bobol a gafodd eu holi yn gwybod dros bwy fyddan nhw’n pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Y prif faterion sy’n destun pryder i ofalwyr yw cyflwr y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth ac addysg – a phob un ohonyn nhw’n faterion sydd wedi’u datganoli i’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Fel rhan o’r broses o nodi eu pryderon, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi datgan eu blaenoriaethau o ran yr hyn yr hoffen nhw ei weld yn cael sylw ar drothwy’r etholiadau ar 5 Mai, gan gynnwys:

Gwella’r gofal sydd ar gael i ofalwyr fyw, gweithio a dysgu yng Nghymru.

Gwella’r mynediad i wasanaethau i ofalwyr Gwella cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr pobol a chanddynt ddementia.

Gwella’r cytundeb i ofalwyr ifainc Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Simon Hatch fod Cymru mewn “sefyllfa unigryw” o ran gofalwyr didâl a bod mwy ohonyn nhw nag yn unrhyw ran arall o’r DU.

“Mae’n bryd i leisiau gofalwyr gael eu clywed a bod gweithredu arnyn nhw,” meddai.

“Fe wyddom fod gofalwyr ar y cyfan heb benderfynu dros bwy fyddan nhw’n pleidleisio ar 5 Mai, fe wyddom hefyd nad yw hanner y gofalwyr yn teimlo fel pe baen nhw’n cael eu clywed.

online casinos UK

“Heb ofalwyr byddai ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru’n chwalu.”

Author