Home » Panel yn cwestiynu gwasanaeth awyr yr heddlu
Cymraeg

Panel yn cwestiynu gwasanaeth awyr yr heddlu

GALLAI datblygiadau cenedlaethol o ran cadw golwg o’r awyr drwy ‘awyrennau ag adenydd’ olygu y gwelir hofrennydd yr heddlu yn amlach uwchben Dyfed-Powys yn y dyfodol.

Dyna yw barn Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, a oedd yn siarad yng nghyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan aelod annibynnol o’r Panel, yr Athro Ian Roffe, ynghylch a yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael gwerth am arian a chymorth amserol gan Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu o ystyried yr arian y mae’n ei gyfrannu iddo.

Dan drefniadau presennol Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, rhoddir cymorth o’r awyr bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd, o ddwy ganolfan yng Nghymru – y naill yn y gogledd a’r llall yn y de.

Cyn hynny, roedd gan Heddlu Dyfed-Powys hofrennydd ym Mhen-bre a weithredai rhwng 9am a 9pm ar gost o tua £1.2 miliwn bob blwyddyn.

Dywedodd Dafydd Llywelyn ei fod yn hyderus fod rhanbarth yr heddlu yn cael cymorth o’r awyr yn ôl yr angen, ond soniodd am ddatblygiadau cenedlaethol a allai olygu y bydd trigolion yn gweld yr hofrennydd yn amlach.

“Bu lleihad yn genedlaethol o ran defnyddio’r hofrennydd – gostyngiad o 20% yn y ffigurau rhwng 2016 a 2017,” meddai.

“Yn ystod yr wythnosau diwethaf cefais gyfarfod gyda’r arolygydd dros dro sy’n arwain gwaith yr hofrennydd o’r ganolfan ar gyrion Caerdydd. Disgrifiodd sefyllfa i mi sydd wedi newid yn sylweddol o ran defnyddio’r hofrennydd.

“Yn genedlaethol, cafwyd datblygiadau mewn ardaloedd mwy trefol o ran ‘awyrennau ag adenydd’, nad ydynt yn addas ar gyfer tirwedd ein hardal ni, ac yn sgil hynna dylwn weld yr hofrennydd yn Nyfed-Powys yn fwy mynych, o bosibl.”

Hefyd rhoddodd Mr Llywelyn gadarnhad o ran yr arian y mae wedi’i ymrwymo i’r gwasanaeth heddlu awyr.

online casinos UK

“Eleni rydym wedi talu oddeutu £250,000 am y gwasanaeth awyr ac yn y flwyddyn ariannol nesaf byddwn yn talu oddeutu £200,000. Yn ogystal, mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu yn talu £50,000 y flwyddyn i Heddlu Dyfed-Powys am y brydles ar faes awyr Pen-bre, fel canolfan weithredol. Felly, yr effaith net yw ei fod yn costio’r Llu tua £150,000, gan arbed arian o gymharu â’r hen drefniadau,” meddai.

Roedd Aelodau’r Panel yn awyddus i glywed am y datblygiadau ynghylch defnyddio dronau, yn enwedig ynghylch a ellid defnyddio’r canolfannau awyr yn Llwynhelyg, Pen-bre, Aberporth a’r Trallwng ar gyfer y math hwn o waith.

Er nad oes gan y Llu ei ddrôn ei hun, dywedodd Mr Llywelyn fod y Llu yn gweithio â phartneriaid, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ar weithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw ac mae’n cydweithio â phartneriaid yng ngogledd Cymru i edrych ar ffyrdd o ddefnyddio dronau yn y dyfodol.

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor a geir yn ardal yr heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys; ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer y Panel.

Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r wasg a’r cyhoedd, ac os cânt ganiatâd ymlaen llaw gan y Cadeirydd, gall pobl ofyn cwestiynau neu wneud datganiad ynghylch mater sy’n cael ei ystyried gan y Panel, ac eithrio materion personél.

Hefyd, gellir cyflwyno cwestiynau i’r Panel yn ysgrifenedig neu drwy’r ffurflen gyswllt ar y wefan.

Mae gwybodaeth am y panel, agendâu, dyddiadau cyfarfodydd, aelodaeth a newyddion ar gael ar y wefan: http://bit.ly/2ET0V1P

Author

Tags