Home » Pentref gyda gwahaniaeth
Cymraeg

Pentref gyda gwahaniaeth

YM MHENTRE’ Cymreig Llanifeiliaid rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i ambell i gymeriad!

Ar un ochr y pentref mae Enid ac Elsi, dwy sydd wedi adnabod ei gilydd ers oes yr arth a’r blaidd; ar ochr arall y pentref mae Huw, y guru fasiwn; a dros y ffordd mae’r wheeler dealer, Vinnie Farchnad.

Byddwch chi’n gyfarwydd â chymeriadau’r rhaglen hon… ond; byddwch chi’n deall yn sydyn iawn bod rhywbeth gwahanol am drigolion pentref traddodiadol Cymreig Llanifeiliaid: maen nhw’n cerdded ar bedair coes ac mae gan rai adenydd. Ie, anifeiliaid ydyn nhw.

Gan ddefnyddio ffilm o anifeiliaid a saethwyd ym Mharc Antur a Sw Fferm Ffoli, Sw Bryste, a Pharc Bywyd Gwyllt Cotswold, mae’r rhaglen yn defnyddio lleisiau nifer o actorion adnabyddus ar gyfer cymeriadu’r anifeiliaid, gan gynnwys Siw Hughes, Sue Roderick, Catrin Mara a John Pierce Jones, a’r cyflwynydd radio Aled Hughes yn adrodd y cyfan i ni.

Mae cyflwynydd Stwnsh Owain Williams, o Sanclêr ger Caerfyrddin, hefyd yn un o’r actorion sy’n rhoi llais i’r anifeiliaid, ac roedd hefyd yn ysgrifennu’r sgript ar y cyd gyda Non Parry. Wrth esbonio’r broses, mae’n cyfaddef “Fi’n gwneud y fath yma o beth ta beth yn fy mhen! Mae’n ffordd wahanol o ‘people-watchio’ – gwylio pobl wrth iddyn nhw fynd ambytu eu busnes a chreu stori am eu cefndir, lle maen nhw’n mynd a beth maen nhw’n meddwl.

“Gwyliais i’r ffilm wnaeth y cwmni cynhyrchu saethu o emu, er enghraifft, a holi’r cynhyrchydd, “Ai fi yw e, neu ydy’r emu yma’n sexy?” O fewn chwinciad ro’n i’n siarad mewn llais rhywiol ac yn siarad am ddod o hyd i ŵr rhif pump. A dyma sut daeth cymeriad Beatrice Bigdrwyn yn fyw,” meddai Owain.

“Mae’r gyfres newydd hon yn dod o hyd i’r absẃrd mewn digwyddiadau normal bob dydd,” meddai Owain. “Mae’n rhaglen unigryw bydd rhieni’n gallu gwylio gyda’u plant a fydd y plant ddim yn sylwi ar rai o’r elfennau sy’ bach yn agos i’r bôn.”

Bydd y bennod gyntaf yn ein cyflwyno i drigolion Llanifeilaid wrth i deulu o meerkats, y Michaels symud i’r ardal. Bydd pob pennod â stori benodol – o gynnal parti i groesawu teulu’r Michaels ac o ymweliad yr anifeiliaid i’r Eisteddfod Genedlaethol i godi arian at do newydd Clwb Rygbi Llanifeiliaid.

Mi fydd y gyfres newydd hon yn hwyl i’r teulu cyfan – gan gynnwys nain, taid, y gath a’r ci!

Author

Tags