Home » Lansiad Gronfa Cymorth Digwyddiadau
Cymraeg

Lansiad Gronfa Cymorth Digwyddiadau

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio rownd nesaf y cynllun ariannu ar gyfer digwyddiadau.

Mae’r cyllid ar gael i’r rheiny sydd ar hyn o bryd yn trefnu digwyddiadau neu sy’n dymuno gwneud hynny, a gallai gynnig hyd at £5,000 – sydd hyd at hanner cyfanswm y gost – lle bydd y digwyddiad yn cael effaith ar ddatblygiad economaidd Sir Gaerfyrddin.

Gall y cynllun gynnig cymorth gyda materion cyfathrebu hefyd.

Mae’r gronfa yn rhan o strategaeth cefnogi digwyddiadau’r Cyngor sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i helpu trefnwyr a rhoi hwb i ddigwyddiadau yn y sir.

Anogir digwyddiadau sy’n gwella amcanion strategol penodol megis strategaeth beicio’r sir, digwyddiadau tref a phentref diwylliant ac ymgyrch Blwyddyn y Môr Croeso Cymru, i wneud cais.

Y llynedd, cefnogodd y gronfa 16 o ddigwyddiadau ledled Sir Gaerfyrddin, gan gyfrannu oddeutu £1.17 miliwn at yr economi leol.

Matt Page o A Cycling, sy’n trefnu digwyddiad beicio blynyddol “Battle on the Beach” ym Mharc Gwledig Pen-bre, oedd un o’r buddiolwyr.

“Mae Battle on the Beach yn denu cystadleuwyr i Sir Gaerfyrddin o ledled y DU ac Iwerddon, yn ogystal â rhannau o Ewrop” meddai Matt.

“Roedd y gronfa wedi ein galluogi i gynnal gweithgareddau ychwanegol yn y digwyddiad i wella profiad yr ymwelwyr, yn ogystal â tnu i dynnu lluniau proffesiynol gyda chamera drôn y gallwn eu defnyddio i hyrwyddo’r digwyddiad yn ehangach ac yn fwy proffesiynol yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd digwyddiadau o ran cefnogi ein cymunedau a’n trefi, y cyfraniad y gallant ei wneud i’r economi lleol a’r modd y maent yn denu ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin.

online casinos UK

“Mae’r gronfa hon ond un o’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi digwyddiadau yn ein sir sydd â’r mwyaf o botensial i gyflawni ein hamcanion.

“Rydym yn annog y rheini sydd â diddordeb ac sy’n bodloni’r meini prawf i wneud cais”

Author

Tags