Home » Plaid yn cyhoeddi cytundeb canser
Cymraeg

Plaid yn cyhoeddi cytundeb canser

Screen Shot 2016-02-02 at 15.02.01
Elin Jones AC: Anelu at wella gwasanaethau a chanlyniadau

BYDD CYNLLUNIAU Plaid Cymru i wella gwasanaethau canser yn cyflymu diagnosis ac yn sicrhau y gall cleifion gael y cyffuriau a’r triniaethau mae arnynt eu hangen: dyna oedd y neges gan Weinidog Iechyd cysgodol y Blaid Elin Jones heddiw wrth iddi ddatgelu contract canser 3 phwynt. 

Mae Contract Canser 3 phwynt Plaid Cymru yn ymrwymo i’r canlynol: Dod ag amseroedd aros i lawr – diagnosis neu ddweud nad oes canser ymhen 28 diwrnod

Cronfa triniaethau newydd: G allu mynd at feddyginiaethau newydd ar sail beth mae’r meddyg yn ragnodi, nid eich cod post

Cefnogaeth unigol i bob claf cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

Mae Plaid Cymru hefyd yn anelu at ostwng nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi trwy ofalu bod y brechlyn HPV yn cael ei roi am ddim i fechgyn yn ogystal â merched, trwy gymryd camau pellach i atal pobl rhag ysmygu, trwy gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, a thrwy sicrhau gwell mynediad at feddygon teulu trwy ein cynllun i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones AC: “Mae un mil ar bymtheg o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru bob blwyddyn, gyda llawer mwy yn cael profion a’r newyddion nad oes canser arnynt. O’r ennyd yr amheuir bod canser ar rywun, dylent allu disgwyl safon uchel o wasanaeth, o’r diagnosis trwodd at ôl-ofal.

“Gwaetha’r modd, dan Lywodraeth Lafur bresennol Cymru, dyw hyn ddim yn digwydd. Mae amseroedd aros am lawer o brofion diagnostig all achub bywydau yn sylweddol hwy yng Nghymru nac yn unman arall yn y DG. Mae rhyw draean o gleifion yng Nghymru yn disgwyl yn hwy na 6 wythnos am sgan MRI, a chafwyd llawer gormod o enghreifftiau o gleifion yng Nghymru yn gorfod gadael eu cartrefi a mynd allan o Gymru er mwyn cael y cyffuriau a’r driniaeth mae arnynt eu hangen.

“Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru ar hyn o bryd ymysg yr isaf yn Ewrop. Nod cynlluniau Plaid Cymru yw symud Cymru tuag at y cyfraddau goroesi gorau.

“Bydd contract canser Plaid Cymru yn sicrhau diagnosis cyflym, mynediad at y cyffuriau a’r driniaeth iawn, a gofal ac ôl-ofal priodol i gleifion canser. Fe fyddwn yn creu tair canolfan ddiagnostig fydd yn cynnwys yr ystod lawn o brofion ac yn meddu ar yr amrywiaeth angenrheidiol o arbenigeddau. Byddwn yn creu cronfa feddyginiaethau a thriniaethau newydd i roi diwedd ar y loteri cod post sy’n bodoli ar hyn o bryd. Ac fe wnawn yn siŵr fod pob claf canser yn cael gweithiwr allweddol i roi cyngor a chefnogaeth trwy gydol cyfnod eu triniaeth.”

Author