Home » Seiat yn y selar yn denu y gynulleidfa fwyaf ar gyfer lansiad llyfr Cymraeg
Cymraeg

Seiat yn y selar yn denu y gynulleidfa fwyaf ar gyfer lansiad llyfr Cymraeg

M​AE lansiad llyfr unigryw a gynhaliwyd wythnos diwethaf wedi torri record am ddenu’r gynulleidfa fwyaf erioed ar gyfer lansiad llyfr Cymraeg drwy ddenu dros tair mil o wylwyr.

Selar Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth oedd lleoliad ‘Seiat yn Y Selar’, ac er bod cynulleidfa fach o pump ar hugain yn yr ystafell ar y noson, digwyddiad digidol oedd y lansiad yn ei hanfod gyda chyfle i bobl ymuno trwy Facebook Live.

Dyma’r lansiad llyfr Cymraeg cyntaf i’w gynnal ar lwyfan digidol. Ymunodd dros fil o bobl yn fyw rhwng wyth a nawr o’r gloch nos Iau ac ers hynny mae dwy fil arall wedi gwylio’r darllediad ar y we.

‘Roedd y lansiad yn dipyn o arbrawf, a doedden ni ddim yn siŵr sut fyddai’r ymateb,’ meddai golygydd Llyfr Y Selar, Owain Schiavone, ‘Ond o ystyried cynulleidfa darged Llyfr Y Selar, sef pobl ifanc, roedden ni’n teimlo bod angen bod yn fentrus a thrio rhywbeth ychydig yn wahanol.’

‘Mae ambell artist Cymraeg cyfoes, er enghraifft Mr Phormula ac Ani Glass, wedi lansio eu recordiau newydd trwy ddarllediad Facebook Live yn ystod 2017, felly roedden ni’n teimlo mai dyma oedd y llwyfan priodol ar gyfer lansiad y llyfr’ ychwanegodd Owain.

Cadwyd union fanylion y lansiad yn ddirgel er mwyn ennyn mwy o chwilfrydedd ymysg y gynulleidfa. Rhys Gwynfor gyflwynodd y lansiad a chafwyd sgwrs â chân gydag un o sêr mwyaf y sin yn ystod y flwyddyn, Yws Gwynedd, yn ogystal â sgyrsiau amrywiol eraill ynglŷn â’r llyfr a’r sin yn gyffredinol.

‘Yn fwriadol, dywedwyd cyn lleied â phosib o wybodaeth am natur y lansiad, gan ddatgelu dim ond yr amser, dyddiad a’i fod yn digwydd rhywle yn Aberystwyth ac ar Facebook Live,’ eglurodd Owain, ‘Dwi’n credu bod hynny wedi talu ar ei ganfed, ac mae’r ymateb wedi bod yn arbennig o dda.’

Cyfrol lliwgar i ddathlu cyffro’r sîn roc Gymraeg gyfoes, yw Llyfr Y Selar. Mae’n cynnwys detholiad o erthyglau a chyfweliadau difyr ynghyd ag adolygiadau o rai o albyms a nosweithiau gorau’r flwyddyn.

‘Roedd yn fraint i’r Lolfa gael bod yn rhan o’r digwyddiad arbrofol hwn,’ meddai Fflur Arwel, Pennaeth Marchnata gwasg Y Lolfa, ‘Gellid honni gyda tipyn o sicrwydd nad oes lansiad llyfr Cymraeg wedi denu cynulleidfa o’r maint yma o’r blaen. Gobeithio bod hyn yn dangos potensial llyfrau i gyrraedd cynulleidfa fawr, newydd mewn ffyrdd gwahanol, arloesol.’

Mae Y Selar bellach yn un o frandiau pobl ifanc amlycaf Cymru diolch i hirhoedledd a phoblogrwydd y cylchgrawn cerddoriaeth chwarterol, a llwyddiant gweithgareddau fel Gwobrau’r Selar a Chlwb Senglau’r Selar.

online casinos UK

Cynhaliwyd y lansiad a’r darllediad ar Facebook Live mewn cydweithrediad â Hansh (S4C), a bydd uchafbwyntiau’n cael eu darlledu ar lwyfannau digidol Hansh yr wythnos hon.

Author