Home » Y Nadolig trwy lygaid dwy genhedlaeth
Cymraeg

Y Nadolig trwy lygaid dwy genhedlaeth

I LAWER ohonom, mae’r Nadolig yn gyfnod hapus gyda chyfle i dreulio mwy o amser gyda theulu a ffrindiau. Mae’n binacl y flwyddyn i blant bach ond i nifer o bensiynwyr mae’n gyfnod anodd.

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd eleni gan elusen Age Cymru yn dangos bod 14,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo’n unig yn ystod cyfnod y Nadolig, gyda dwy ran o bump ohonyn nhw’n weddw.

Mae cyfres Hen Blant Bach ar S4C yn ymchwilio mewn i’r hyn all ddigwydd pan mae plant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr. Mewn dwy raglen dros y pythefnos nesaf, byddwn yn gweld pa effeithiau positif all y ddwy genhedlaeth gael ar ei gilydd wrth i gamerâu cudd a dwy seicolegydd o Brifysgol Bangor wylio pob dim.

Mae Dr Catrin Hedd Jones yn ddarlithydd mewn astudiaethau dementia ym Mhrifysgol Bangor ac yn un o’r seicolegwyr sy’n cymryd rhan yn arbrawf Hen Blant Bach. Meddai, “Mae ymchwil yn dangos bod y Nadolig yn gallu bod yn anodd i bobl hŷn wrth iddyn nhw deimlo’n fwy unig. Efallai bod eu teulu nhw wedi symud i ffwrdd neu ddim o’u cwmpas nhw gymaint, ac maen nhw’n hel atgofion am yr adegau y buon nhw’n fwy prysur ac yn fwy ynghanol pethau.”

Meddai Dr Catrin Hedd Jones, “Roeddem yn gwybod bod pobl hŷn yn berchen ar sgiliau oes sydd ddim yn cael eu defnyddio wrth i gymdeithas ddilyn trefn sy’n cadw’r cenedlaethau ar wahân. Mae dod â’r plant i mewn wedi dod ag egni a llawer iawn o hwyl i fywydau’r bobl hŷn. Maen nhw’n cael cyfle i gyfrannu yn hytrach na derbyn gofal ac mae gweld yr effaith ar unigolion sydd yn isel eu hyder yn rhywbeth arbennig iawn.”

Ond yn ôl Age Cymru, mae’n bosibl i bawb wneud rhywbeth bach i wneud gwahaniaeth dros yr Ŵyl. Meddai Victoria Lloyd, Prif Weithredwr dros dro Age Cymru, “Mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r bobl hŷn o’n cwmpas. Gall cynnal sgwrs gyfeillgar â pherson hŷn ar y bws, neu gynnig rhoi help i gymydog oedrannus gyda’u siopa os yw’r tywydd yn wael, wneud mwy o dda na fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn dyfalu, ac am bris bach iawn i ni ein hunain. Yn wir, rwy’n gwarantu y byddwch chi’n teimlo’n well hefyd o ganlyniad.”

Author

Tags