Home » Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd o ran cefnogi teuluoedd
Cymraeg

Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd o ran cefnogi teuluoedd

MAE dull Sir Gaerfyrddin o gefnogi teuluoedd a sicrhau nad yw plant yn mynd i’r system ofal wedi’i gydnabod ar lefel genedlaethol.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan ill dau wedi ymweld â Chyngor Sir Caerfyrddin i gwrdd â’r tîm sy’n ysgogi newid cadarnhaol i ofal cymdeithasol teulu.

Sir Gaerfyrddin sydd â’r nifer isaf o blant mewn gofal ledled Cymru, a chyda mwyfwy o deuluoedd yn cael cefnogaeth i aros ynghyd, mae’r ffigurau’n lleihau’n raddol o flwyddyn i flwyddyn.

Mae nod strategol y cyngor i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru, ac mae’n cyflawni hyn trwy ystod o wasanaethau sydd gyda’i gilydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gannoedd o bobl leol.

Wrth sgwrsio â rheolwyr gwaith cymdeithasol, dywedodd Mr Drakeford fod Sir Gaerfyrddin wedi gwneud argraff arbennig oherwydd bod y tîm yn barod i feddwl a gwneud pethau’n wahanol, a’i fod eisiau darganfod sut y gall ardaloedd eraill yng Nghymru efelychu ei llwyddiant.

Un o’r newidiadau symlaf, ond mwyaf effeithiol, a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw alinio’r timau sy’n gweithio ar draws addysg a gwasanaethau plant a dod â staff sydd â sgiliau arbenigol ynghyd, fel bod teulu sydd angen cefnogaeth yn cael hynny gan y tîm cyfan, yn hytrach na bod un gweithiwr cymdeithasol yng ngofal achos unigol.

Cafodd y Prif Weinidog wybod sut y mae hyn wedi arwain at rannu sgiliau, safbwyntiau a syniadau i ddarparu pecyn pwrpasol o gefnogaeth i bob teulu, yn ogystal â bod yn greadigol wrth ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gysylltu â theuluoedd a’u cadw ynghyd.

Dywed timau eu bod yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd â theuluoedd i lwyr ddeall eu hanghenion, a pha ymyrraeth fydd yn gweithio orau iddyn nhw – yn aml drwy wahodd teuluoedd i weithio gyda nhw i gomisiynu cefnogaeth arbenigol wedi’i theilwra gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn ffordd sy’n gweithio orau iddynt.

Mae atal ac ymyrraeth blynyddoedd cynnar hefyd yn nodwedd allweddol – yn ystod y chwe mis diwethaf mae’r gwasanaeth wedi cefnogi 18,000 o deuluoedd ag ystod o wasanaethau yn y gymuned i feithrin gwytnwch ac atal yr angen i deuluoedd gael cyswllt â’r system gofal cymdeithasol statudol.

Wedi’i ymweliad â Chyngor Sir Caerfyrddin, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn awyddus i rannu ei ganfyddiadau ag awdurdodau eraill yng Nghymru er mwyn lleihau nifer y plant sy’n mynd i’r system ofal a chadw mwy o deuluoedd ynghyd.

online casinos UK

“Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gwneud gwaith gwych i gadw teuluoedd ynghyd ac atal plant rhag mynd i ofal,” meddai. “Fel Prif Weinidog, rwyf am ddatblygu’r gwaith sy’n cael ei wneud, deall pam ei fod yn cael effaith ar bobl, a rhannu’r arferion da ledled Cymru fel y gallwn helpu i gadw mwy o deuluoedd ynghyd.”

Dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym yn cefnogi bwriad strategol Llywodraeth Cymru ac yn ei rannu. Nid y targedau sy’n bwysig inni, ond cadw teuluoedd ynghyd, a lleihau nifer y plant y mae angen gofal arnynt heb gyfaddawdu dim o ran eu diogelwch.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, ei fod yn falch bod Sir Gaerfyrddin ar flaen y gad o ran datblygu ystod amrywiol o wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd sydd ag amrywiaeth o anghenion, ac yn eu cefnogi i ofalu am eu plant gartref ac yn eu cymunedau eu hunain.

Dywedodd, “Mae cadw teuluoedd ynghyd gyda’r gefnogaeth gywir yn rhywbeth rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei gylch. Rwy’n falch iawn o’r gwaith mae ein timau yn ei wneud, a’u parodrwydd i weithio mewn modd gwahanol a rhoi cynnig ar ddulliau newydd i gefnogi teuluoedd mewn angen a sicrhau nad ydynt yn gorfod cael cymorth gan ein gwasanaethau. Braf oedd clywed brwdfrydedd y tîm heddiw a’u balchder wrth wneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o blant.”

Author