Home » Un bach arall am ffordd?
Cymraeg

Un bach arall am ffordd?

Ffion Dafis: Un bach arall?

YDI perthynas y Cymry gydag alcohol yn un iach? Gyda miloedd o bobl ledled y wlad wrthi’n ymgymryd â her ‘Ionawr Sych’, ydi hi’n bryd i ni gyd ystyried ein arferion yfed?
Ym mhennod ddiweddaraf cyfres S4C, DRYCH: Ffion Dafis – Un Bach Arall?, sy’n cael ei ddangos am 9.00 ar nos Sul 19 Ionawr, mae’r actores a’r awdur Ffion Dafis yn awyddus i sbarduno sgwrs agored am ein perthynas ag alcohol.
Meddai Ffion: “Dw i wedi cael fy nghyflyru ers oeddwn i’n ifanc iawn i feddwl bod yfed alcohol yn rhan o fwynhau, a dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth sy’n rhan ohonom ni yma yng Nghymru. Dwi wedi trio cael cyfnodau sobor dros y blynyddoedd a dwi di gwneud misoedd, dwi di gwneud wyth mis, tri mis, pedwar mis, ond ma na rhywbeth wastad sydd wedi fy nenu nôl.”
Ar 2 Mawrth 2020 bydd deddf newydd yn dod i rym gan Lywodraeth Cymru fydd yn gosod isafswm pris o 50 ceiniog ar bob uned o alcohol. Bwriad y Llywodraeth yw targedu gwerthiant diodydd rhad, uchel eu cryfder er mwyn lleihau yfed niweidiol. Mae darogan y gall hyn arwain at hyd at 60 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn a gostyngiad o 1500 o bobl yn ymweld a’r ysbyty o ganlyniad i broblemau yn ymwneud ag alcohol.
Ym mis Mai 2018, fe ddaeth Yr Alban y wlad gyntaf yn y byd i weithredu deddf o’r un math, ac mae ymchwil yn dangos bod gostyngiad o saith y cant mewn achosion o bobl yn ymweld â’r ysbyty gyda phroblemau sy’n gysylltiedig ag alcohol o ganlyniad i’r ddeddf.
Wrth sgwrsio ag arbenigwyr meddygol bydd Ffion yn darganfod mwy am effeithiau goryfed ar y meddwl a’r corff.
Meddai Dr Dai Samuel, Ymgynghorydd Gastroenteroleg a Hepatoleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg: “Dros Brydain yn y 40 mlynedd diwethaf, mae marwolaethau achos Clefyd yr Afu wedi cynyddu 400 y cant. Mae pris alcohol, y pwysau gan bobl o’n cwmpas ni a’r ffordd chi’n gallu cael gafael arno fe yn hawdd iawn ma hynny yn rhan o’r gymysgfa sy’n golygu ein bod ni gyd yn yfed gormod.”
Yn ystod y rhaglen bydd Ffion hefyd yn cwrdd ag unigolion sy’n siarad yn agored am effaith ddinistriol y cyffur arnyn nhw a’u teuluoedd.
Yn ôl un o gyfranwyr y rhaglen, y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr theatr Iola Ynyr, un o’r problemau mwyaf yma yng Nghymru yw’r stigma sy’n dal i fodoli ynghylch problemau alcohol.
Dywedodd Iola: “Y munud wnes i gyfaddef fy mod i’n alcoholig, mi wnaeth pethau wella drwyddi draw. Ond mi oedd y siwrne o wynebu hynny yn anodd. Beth sydd rhaid sylweddoli ydi mae dibyniaeth o unrhyw fath, ‘sgynno fo ddim parch at ryw na dosbarth cymdeithasol na iaith na diwylliant.
“Mae o’n ymosod ar bawb ac mae o’n ran o bob dosbarth cymdeithasol. Dydy’r Cymry Cymraeg ddim yn gallu eithrio’u hunain o broblemau dibyniaeth. Mae cywilydd yn chwarae rhan amlwg iawn, ac mae hynny’n beth niweidiol. Mae angen chwalu label. Dw i’n fwy na label.”
Clywn hefyd am stori Brychan Llyr, y cerddor a chyflwynydd teledu a fu bron â cholli ei fywyd o ganlyniad i alcoholiaeth. Mewn sgwrs gyda Ffion mae Brychan yn datgelu ei fod wedi treulio cyfnod yn y carchar ychydig dros flwyddyn yn ôl wedi iddo gael ei ddal yn yfed a gyrru. Mae Brychan bellach wedi rhoi’r gorau i yfed ac yn rhybuddio pobl o beryglon alcohol.
Bydd Ffion hefyd yn cwrdd ag Angharad Griffiths. Ar ôl colli aelod agos o’i theulu i alcoholiaeth, penderfynodd Angharad edrych ar ei harferion yfed ei hun. Wedi cyfnodau o oryfed gael effaith ddinistriol ar ei hiechyd meddwl, bellach mae wedi rhoi’r gorau i yfed.
Mae Ffion yn awyddus i chwalu’r stigma a sbarduno sgwrs agored am ein arferion yfed ni i gyd ac am y cyffur sy’n cymaint rhan o gymdeithas.

Author