Home » Sir Gaerfyrddin yn cyhoeddi cynllun newid hinsawdd
Cymraeg

Sir Gaerfyrddin yn cyhoeddi cynllun newid hinsawdd

Cyngor Sir Gâr: Roedd ymgyrchwyr dros y newid yn yr hinsawdd yn croesawu ymrwymiad y Cyngor

CYNGOR Sir Caerfyrddin yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd, sy’n nodi sut y bydd yn gweithio tuag at fod yn garbon sero-net yn ystod y 10 mlynedd nesaf.
Mae ymdrechion i leihau a gwrthbwyso allyriadau carbon eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r agenda newid yn yr hinsawdd, ond mae mwy i ddod wrth i’r Cyngor ganolbwyntio ar feysydd allweddol er mwyn ateb yr her.
Y llynedd roedd yr awdurdod yn un o’r cynghorau cyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan addo bod yn garbon sero-net erbyn 2030, sef 20 mlynedd o flaen targedau Llywodraeth Cymru a’r DU, ac ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu o fewn blwyddyn.
A hithau’n flwyddyn ers ei ddatganiad, bu i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r cynllun hwnnw heddiw (12 Chwefror, 2020) ac ailadrodd ei ymrwymiad, yn ogystal â thynnu sylw at y camau cadarnhaol mae wedi’u cymryd yn barod.
Mae’r Cyngor wedi lleihau allyriadau carbon ei adeiladau annomestig 38 y cant ers 2005/06, ac mae’n caffael ei drydan i gyd o ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Buddsoddwyd £2 filiwn ganddo mewn 200 o brosiectau effeithlonrwydd ynni, yn y gobaith o arbed 41,000 tunnell o allyriadau carbon.
Mae pob prosiect adeiladu mawr newydd yn cynnwys ynni adnewyddadwy, gan gynnwys paneli solar, a phympiau sy’n codi gwres o’r ddaear a’r awyr.
Mae allyriadau carbon o oleuadau stryd wedi gostwng 65 y cant ers 2011/12, ac mae 80 y cant o’r 20,000 o oleuadau stryd sydd yn y sir wedi cael eu troi’n rhai LED ynni isel.
Mae allyriadau carbon fflyd y Cyngor, gan gynnwys cerbydau sbwriel a graeanu, wedi lleihau 19 y cant ers 2012/13, ac mae rhagor o fuddsoddiad yn yr arfaeth i sicrhau fflyd sydd hyd yn oed yn fwy effeithlon o ran ynni.
Ni oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i brynu ceir trydan er mwyn lleihau effaith milltiroedd busnes, ac ategwyd hyn gan arferion gweithio ystwyth newydd i leihau’r teithio a wneir gan staff.
Ymhlith y camau gweithredu eraill y mae datblygu ffyrdd newydd o leihau carbon yn adeiladau’r Cyngor, prynu fflyd sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon, cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau newid ehangach, edrych ar gyfleoedd i blannu coed a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.
Cyflwynwyd y cynllun gan y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd, ac fe atebodd gyfres o gwestiynau manwl gan aelodau o’r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
Dywedodd: “Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol iawn i Gyngor Sir Caerfyrddin. Flwyddyn yn ôl, bron i’r diwrnod, fe wnaethon ni ddatgan argyfwng hinsawdd. Roedden ni i gyd wedi cytuno’n unfrydol yn y cyfarfod hwnnw y byddai’r Cyngor hwn yn datblygu cynllun gweithredu yn y 12 mis nesaf.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i wneud hynny, ond mae’n bwysig iawn cofio pam ein bod yn gwneud hynny.
“Wrth wylio’r newyddion rydyn ni’n gweld yn ddyddiol yr holl drychinebau naturiol sy’n digwydd – tanau gwyllt, lefelau’r môr yn codi gan fygwth ein hynysoedd, ein cefnforoedd yn llawn gwastraff plastig – rydyn ni’n gallu gweld yr effaith mae’r ddynoliaeth yn ei chael a sut mae hynny’n bygwth dyfodol y blaned.
“Os na wnawn ni newid bydd hi’n rhy hwyr, oherwydd byddwn ni wedi gwneud cymaint o ddifrod i’r blaned – mae gwyddonwyr yn bendant ynghylch hynny. Mae newid hinsawdd yn digwydd yma, ac mae’n digwydd nawr.”
Ychwanegodd: “Roedden ni’n gwbl ddifrifol wrth addo i lunio cynllun gweithredu, ac rwy’n falch ein bod ni wedi cadw at yr addewid hwnnw.
“Rwy’n ymfalchïo’n fawr mai ni yw’r cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu. Wedi dweud hynny, llunio cynllun gweithredu yw’r darn hawdd – nawr mae’r gwaith caled yn dechrau. Bydd y cynllun hwn yn esblygu ac yn newid i ateb heriau’r dyfodol. Bydd hefyd yn ymateb i gyfleoedd. Rydyn ni’n ymchwilio i ffyrdd newydd o ddatblygu prosiectau cyffrous i leihau ein hallyriadau carbon.
“Mae’n werthusiad gwych o ble rydyn ni arni, ond bydd hyn yn wahanol iawn ymhen dwy flynedd, neu bum mlynedd. Mae’n realistig ac yn rhywbeth y gallwn ni ei gyflawni. Rydyn ni’n edrych ar ein hadeiladau domestig, ein fflyd a’n milltiroedd busnes, goleuadau stryd… ond byddwn ni’n gwneud llawer mwy na hynny.
“Bydd wastad hyn a hyn o allyriadau carbon gyda ni, ond beth mae’n rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i ffyrdd o wrthbwyso hyn fel ein bod yn garbon sero-net.
“Rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd, gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth, a gyda chymdeithasau a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus sy’n awyddus i ddod gyda ni ar y daith hanesyddol hon.”

Author