Home » Teyrnged i Dr Meredydd Evans
Cymraeg

Teyrnged i Dr Meredydd Evans

Philip Thomas: A life changing journey towards his future

MAE CADEIRYDD AWDURDOD S4C, Huw Jones wedi talu teyrnged i Dr Meredydd Evans yn sgil y cyhoeddiad am ei farwolaeth (Dydd Sadwrn Chwefror 21).

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Merêd a dweud y gwir oedd seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg, gyda’i lais melfedaidd, ei ganeuon gafaelgar a’i bersonoliaeth ddeniadol; ond bu’n gymaint mwy na hynny. Yn gynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru, roedd yn teimlo’n angerddol yr angen am raglenni poblogaidd fyddai’n apelio at genedl gyfan, ac yn gwybod sut i fynd ati i’w creu nhw. Yn ymgyrchydd di-flino, rhoddodd ysbrydoliaeth ac arweiniad yn nyddiau’r frwydr i sefydlu S4C, a bu’n feirniad unplyg ond cwrtais o ymdrechion y darlledwyr Cymraeg i gyrraedd y nôd wedi hynny. Gyda’i waith gorchestol, law yn llaw â Phyllis, ym maes canu gwerin, yn athronydd uchel ei barch ac athro disglair, roedd yn wir yn ffigwr unigryw yn hanes diweddar ein cenedl.”

Author