Home » ‘Un Funud Fach’
Cymraeg

‘Un Funud Fach’

church1DDIWEDD mis Mai bydd plac yn cael ei ddadorchuddio i gofio ‘Cofio’ ym mhentref Rhoscrowdder y tu hwnt i dref Penfro.

Cyfansoddwyd y gerdd eiconig gan Waldo Williams yn 1931 pan oedd ar ffarm ei gyfaill mawr, Willie Jenkins, yr ymgeisydd ILP (Plaid Lafur Annibynnol) cynnar, yn Hoplas gerllaw.

Carcharwyd Willie Jenkins oherwydd ei heddychiaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynrychiolodd y Blaid Lafur mewn pum etholiad yn Sir Benfro a bu Waldo yn ymgyrchu o’i blaid. Fe’i magwyd yn fab Y Mans yn Prendergast, Hwlffordd, lle’r oedd ei dad o Gymro Cymraeg, y Parch John Jenkins, yn wei nidog ar gapel Hill Park. Roedd yntau a John Edwal Williams, tad Waldo, yn gyfeillion agos yn ystod y cyfnod cyn i’r Williamsiaid symud i Fynachlog-ddu.

Mae’n rhaid iddo fod yn myfyrio ynghylch y pethau sydd i’w cofio neu na ellir eu cofio ers meitin ond dywed i’r pennill cyntaf lifo ohono’n sydyn wrth dorri erfin. Cyfansoddodd y pum pennill dilynol wedyn gyda’r nos wedi swpera yn y ffermdy. Dyma’r gerdd o’i eiddo y clywir ei llefaru amlaf.

Mae’r gerdd yn llawn hiraeth ac angerdd am wareiddiadau coll slawer dydd, am eiriau diflanedig a chwedlau cain na ŵyr neb amdanyn nhw mwyach.

Caiff y plac, gyda chyfieithiad D. M. Lloyd o’r gerdd, ei ddadorchuddio gan y brodyr Prys a Rhodri Morgan, y naill yn Athro Emeritus ym Mhrifysgol Abertawe a’r llall yn gyn-Brif Weinidog Cymru.

Chwaraeodd tad y bechgyn, yr Athro T. J. Morgan, ran allweddol i ryddhau Waldo o orfodaeth filwrol pan wynebodd dribiwnlys gwrthwynebwyr cydwybodol yng Nghaerfyrddin yn 1942. Cyflwynodd Waldo ei ‘Ddatganiad’ enwog yn esbonio pam ei fod yn heddychwr gan gyfeirio at ‘Ddychymyg Dwyfol’ William Blake.

Trefnir y dadorchuddio gan Gymdeithas Waldo a hynny ar nos Iau, Mai 26, yn Neuadd Rhoscrowdder am 6.30 pm. Yn dilyn fe fydd Angharad Edwards yn llefaru’r gerdd ‘Cofio’ ac yna yr Athro M. Wynn Thomas, o Brifysgol Abertawe, yn traddodi darlith yn Saesneg ar y testun ‘Waldo Williams and the nobility of poetry’.

Codir tâl o £5 ar gyfer yr achlysur.

Mae Cymdeithas Waldo yn ddiolchgar i Gwmni Valero, Llenyddiaeth Cymru a’r ‘Friends of Friendless Churches’ am eu cymorth gyda’r trefniadau.

online casinos UK

Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01437 532236

Author