Home » Bydd sêr yn hyfforddi rhieni i chwarae pêl-droed
Cymraeg

Bydd sêr yn hyfforddi rhieni i chwarae pêl-droed

jhYN HYTRACH na gorfod gwrando ar weiddi’r rhieni, tro’r plant fydd hi i gefnogi o’r ystlys wrth i’w rhieni gystadlu mewn cyfres bêl-droed newydd ar S4C.

Wrth i ni edrych ymlaen at Bencampwriaeth Euro 2016, bydd pedwar tîm pêl-droed newydd yn cael eu ffurfio mewn pedair tref ar draws Cymru ar gyfer Codi Gôl. A bydd cic gynta’r gyfres newydd nos Sul, 15 Mai.

Yn chwarae yn y timau bydd mamau a thadau’r bobl ifanc sy’n chwarae dros dimau pêl-droed ieuenctid y clybiau, tra bydd pedwar cyn seren o fyd pêl-droed Cymru yn rheoli’r timau gwahanol.

Ar ôl ychydig o hyfforddiant bydd y timoedd o Amlwch, Ffostrasol, Pwllheli a Rhydaman yn mynd benben â’i gilydd ym Mharc Latham yn y Drenewydd, gyda’r tîm buddugol yn cynrychioli Cymru mewn gêm arbennig yn erbyn tîm o rieni yn Llydaw yn ystod Pencampwriaeth Euro 2016.

Cyn chwaraewr Abertawe, Inverness Caledonian Thistle a Hibernian, Owain Tudur Jones, fydd yn rheolwr ar Amlwch, tra bydd cyn ymosodwr Arsenal, West Ham a Celtic, John Hartson, yn rheoli Rhydaman. Yn ceisio arwain Ffostrasol at lwyddiant bydd cyn chwaraewr Leicester City a Norwich City, Iwan Roberts ac yn rheoli Pwllheli bydd cyn ymosodwr Watford, Aston Villa a Newcastle United, Malcolm Allen. Ac mae’r pedwar hyfforddwr yn barod wedi dangos eu hochr gystadleuol wrth ymarfer gyda’u timau.

Meddai John Hartson, a sgoriodd 14 gôl mewn 51 gêm dros Gymru, “Dwi wastad wedi ffansio bod yn rheolwr ar dîm bêl-droed, ond do’n i byth wedi meddwl taw yn Rhydaman y byddwn i’n cael fy nghyfle cyntaf!

“Mae’r rhieni a’r plant yn Rhydaman yn griw llawn angerdd ac maen nhw’n benderfynol o ennill. Does dim llawer o ddramatics y byd pêl-droed modern i’w gweld yma, ond mae digon o sbort i’w gael bant o’r cae.”

Bydd y plant hefyd yn chwarae rôl allweddol – penderfynu ar liwiau’r clwb, beth a phwy fydd y masgot a’r penderfyniad mawr – ydyn nhw’n mynd i gadw ffydd yn y rheolwr?! Hefyd yn ymddangos yn ystod y gyfres bydd cyflwynydd Radio Wales Eleri Siôn, a fydd yn cael ei hyfforddi i fod yn ddyfarnwr ar gyfer y diwrnod hollbwysig yn y Drenewydd.

Hefyd fel rhan o baratoadau S4C ar gyfer Euro 2016, bydd cyfres o bedair rhaglen o archif BBC Cymru yn dangos pedair o gemau mwyaf cofiadwy tîm pêl-droed Cymru o’r chwarter canrif ddiwethaf. Y gemau yw: Cymru v Yr Almaen o 1991; Cymru v Gwlad Belg o 1993; Cymru v Yr Eidal o 2002; a Chymru v Norwy o 2011.

Author