Home » Ymunwch ag ymchwiliad y Cynulliad i radio yng Nghymru
Cymraeg

Ymunwch ag ymchwiliad y Cynulliad i radio yng Nghymru

MAE ymchwiliad newydd ar y gweill yn edrych ar y sector radio yng Nghymru ac i ba raddau y mae’n diwallu anghenion ei gynulleidfaoedd.

Bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y strwythur perchenogaeth yng Nghymru, effaith bosibl dadreoleiddio radio masnachol ar gynulleidfaoedd, ac effaith technoleg newydd ar gynnwys.

Mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru yn gwrando ar y radio nag yn y DU yn gyffredinol. Mae gwasanaethau radio yn cyrraedd mwy na 90 y cant o’r boblogaeth, y cyrhaeddiad uchaf o unrhyw wlad yn y DU.

“Mae radio yn rhan bwysig o sut mae pobl yng Nghymru yn cael gafael ar newyddion a gwybodaeth,” meddai Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

“I rai, efallai mai dyma’r unig ffynhonnell wybodaeth sydd ganddynt, gan nad oes digon o ddarpariaeth symudol a band eang mewn rhai ardaloedd gwledig.

“Rydym am wybod pa mor dda y mae radio yng Nghymru yn gwasanaethu ei gynulleidfaoedd, a sut y gallai’r diwydiant edrych yn y dyfodol ar ôl cael ei ddadreoleiddio a chyda dyfodiad technoleg newydd.”

Cylch gorchwyl llawn yr ymchwiliad yw:

  • I ba raddau y mae gwasanaethau radio BBC Cymru Wales, gwasanaethau radio masnachol a gwasanaethau radio cymunedol yn diwallu anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru;
  • Effaith bosibl dadreoleiddio radio masnachol ar gynulleidfaoedd yng Nghymru;
  • Strwythurau perchnogaeth radio masnachol a’u heffaith ar gynnwys lleol;
  • Effaith technoleg newydd ar gynnwys lleol;
  • Cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau radio cymunedol yng Nghymru, ac
  • Addasrwydd seilwaith darlledu radio yng Nghymru.

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad ddarllen tudalennau gwe’r Pwyllgor i gael rhagor o wybodaeth – www.cynulliad.cymru/SeneddDGCh.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad cyhoeddus yw 16 Chwefror 2018.

Author

Tags