Home » Hanfod Cymru: Gwnewch gais am grant nawr!
Cymraeg

Hanfod Cymru: Gwnewch gais am grant nawr!

AR DDIWRNOD Santes Dwynwen bydd Hanfod Cymru yn rhannu’r serch drwy agor y drws ar gyfer derbyn ceisiadau oddi wrth elusennau o bob cwr o Gymru am grant bach o hyd at £10,000. Gall y ceisiadau fod am brosiect neu weithgarwch sy’n cael ei gynnal ym meysydd diwylliant a chelfyddyd, addysg neu les cymdeithasol. Gall y cais am grant fod ar gyfer unrhyw weithgarwch o fewn y meysydd hyn, y tu hwnt i’r maes statudol.

Dywedodd Prif Weithredwr Hanfod Cymru, Siôn Brynach: “Cawsom ein rhyfeddu gan y nifer fawr o geisiadau da a ddaeth i law yn y ddwy rownd gyntaf o geisiadau am grantiau yn ystod 2017 . Gobeithiwn yn fawr y bydd y rownd hon yn denu ceisiadau o’r un safon.

“Mae gan elusennau tan ddydd Gŵyl Dewi 1 Mawrth i gyflwyno cais, a bydd y grantiau a ddyfernir gan Fwrdd Hanfod Cymru yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd Ebrill. Gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwnnw yn newyddion da i lu o elusennau ym mhob cwr o Gymru.”

Sefydlwyd Hanfod Cymru er mwyn dosbarthu’r arian a godwyd gan Loteri Cymru tuag at Achosion da. Mae lleiafswm o 20% o’r elw o gyfanswm gwerthiant tocynnau Loteri Cymru yn cael ei gyfeirio at achosion da yng Nghymru trwy’r elusen. Mae’n gweithredu’n hollol annibynnol gyda’i Bwrdd Ymddiriedolwyr ei hun, ac mae’n gweithredu’n annibynnol ar Loteri Cymru, sy’n goruchwylio’r loteri wythnosol.

Am fwy o wybodaeth am Hanfod Cymru ewch at www.hanfodcymru.wales ac am fwy o wyboaeth ar sut i brynu tocyn Loteri Cymru ewch at www.loteri.cymru

Author

Tags