Home » Ddarganfyddiadau diddorol ar draethau Arfordir Penfro
Uncategorized

Ddarganfyddiadau diddorol ar draethau Arfordir Penfro

penMAE mwy o ddarganfyddiadau rhyfeddol ar draethau Arfordir Penfro wedi taflu goleuni diddorol pellach ar fywyd helwyr-gasglwyr yr ardal mor bell â 10,000 o flynyddoedd yn ôl. 

Gwelwyd olion traed bodau dynol ac anifeiliaid hynafol gan Archeolegwr y Parc Cenedlaethol yn Niwgwl, tra darganfuwyd olion ych hirgorn, brîd prin o wartheg gwyllt yn Borth Mawr gan ŵr lleol, Shaun Thompson. Arweiniodd y stormydd ar ddechrau 2014 at golli llawer o dywod o draethau lleol, gan ddatgelu olion coetiroedd hynafol mewn llawer o draethau, yn cynnwys Niwgwl, Abereiddi a Porth Mawr. Mae’r tywod yn dychwelyd yn raddol, ond ceir darganfyddiadau o hyd ar hyd yr arfordir. Dywedodd Phil Bennett, Rheolwr Diwylliant a Threftadaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r olion traed yn y mawn agored yn Niwgwl, sy’n hanu mwy na thebyg o’r cyfnod Mesolithig tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, yn awgrymu y gallai bodau dynol fod yn tracio anifail â charnau mawr megis ych hirgorn. “Byddai darganfyddiad olion yr ych hirgorn yn Borth Pawr gerllaw yn cefnogi’r ddamcaniaeth hon ac mae’r cyrn yn awgrymu fod y creaduriaid hyn wedi bod yn rhai mawr iawn. “Mae wedi bod yn fraint cael bod yn archeolegwr yn gweithio yn Sir Benfro yn ystod y cyfnod hwn o ddarganfod, ond mae’r tywydd a’r llanw sy wedi datguddio’r cliwiau rhyfeddol i’n gorffennol hefyd wedi arwain at golli nifer o’r adnoddau sensitif hyn. Fe hoffwn ofyn i unrhyw un sy’n dod o hyd i unrhyw beth diddorol neu anghyffredin o gwmpas yr arfordir i gysylltu â mi ar 0845 3457275.” Bydd olion yr ych hirgorn bellach yn cael eu cadw a gobeithir eu harddangos yn y pendraw yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi.

Author