Home » Ympryd dros newidiadau cynllunio
Uncategorized

Ympryd dros newidiadau cynllunio

Richie: Battle joined

6phethAR DDYDD Llun 30 Mehefin, ymgyrchwyr iaith Gymraeg ymprydio am 24 awr i dynnu sylw at bwysigrwydd yr iaith i geisiadau cynllunio.

 Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, nid yw Bil Cynllunio drafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg – er bod y Gynhadledd Fawr, sef ymgynghoriad y Llywodraeth ar sefyllfa’r iaith, wedi argymell newidiadau i’r gyfraith gynllunio er lles yr iaith. Mae’r ymprydwyr yn galw am newidiadau a fyddai’n gosod anghenion lleol fel man cychwyn y system yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth genedlaethol. Maen nhw hefyd am sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu, a bod gan gynghorwyr rym cyfreithiol i dderbyn neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg. Ymysg y rhai fydd yn ymprydio bydd yr awdures Manon Steffan Ros, Angharad Tomos, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Mared Ifan a Iolo Selyf James o fand y Ffug. Wrth esbonio ei rhesymau am ymprydio, dywedodd Manon Steffan Ros: “Yn syml iawn, does dim hawl yng Nghymru i wrthod caniatâd cynllunio ar sail iaith yn unig. Y neges ydi nad ydi’r iaith yn ddigon pwysig i’w ystyried pan fydd cwmniau mawr eisiau codi 300 o dai ar gyrion eich pentre’. Dwi’n anghytuno efo hynny.” Ychwanegodd Cen Llwyd, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifrif am ddiogelu a chryfhau cymunedau Cymraeg a sicrhau bod pobl yn cael byw yn Gymraeg.” Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cadarnhaodd y Prif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg yn ei ddatganiad polisi ar 17 Mehefin. “Mae’r Nodyn Cyngor Technegol, TAN 20, yn ei gwneud yn glir mai’r lle mwyaf priodol o fewn y system gynllunio ar gyfer ystyried effeithiau datblygiadau ar y Gymraeg yw trwy’r Cynllun Datblygu Lleol. “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system sy’n seiliedig ar gynllun a dylai awdurdodau cynllunio lleol wneud yn siŵr eu bod yn ystyried y Gymraeg wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. I’w helpu, cyhoeddwyd canllaw ymarfer ar 17 Mehefin i gyd-fynd â datganiad y Prif Weinidog.”

Author