Home » Adeiladwch hi ac mi ddôn nhw?
Cymraeg

Adeiladwch hi ac mi ddôn nhw?

Trenau newydd: Hen lwybrau
Trenau newydd: Hen lwybrau
Trenau newydd: Hen lwybrau

MAE POBL yn dal i gofio rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth. Fe’i caewyd yn derfynol i nwyddau, sef llaeth, ym 1973, bron union ganrif ar ôl ei chodi.

Dros y blynyddoedd, bu nifer yn ceisio adfer rhan o’r lein ar gyfer rheilffordd dreftadaeth, ond, ers tua 2000, bu’r galw a’r drafodaeth am ailgreu cledrau rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cynyddu. Yn ddiweddar iawn, sefydlwyd grŵp ymgyrchu Traws Link Cymru i weithio dros adfer y cyswllt hwn, a’r cyswllt atodol i Fangor.

Nid peiriannydd sifil mohonof ac nid wyf yn ymddiddori mewn trenau yn arbennig, felly fy unig ddiddordeb i yw adnabod y posibiliad o agor cefn gwlad gorllewin Cymru i drafnidiaeth fodern a gweld datblygiadau cyffrous a all gryfhau’r economi yn sylweddol.

Felly, nid wyf am gynnig lein, yn benodol, na’r math o lwybr y gellid ei gymryd, ond mae’n werth trafod yr opsiynau. Mae’r hyrwyddwyr y tu ôl i Traws Link Cymru yn awgrymu defnyddio tipyn o’r hen lein, sydd yno o hyd, gyda darn newydd o Alltwalis i Gaerfyrddin ac ail-leoli pwrpasol mewn lleoedd eraill.

Byddai hynny’n golygu taith o ryw awr a hanner rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Mae hyn yn cymharu’n ffafriol gyda’r awr a chwarter a gymerir, i bob pwrpas, mewn car, a’r ddwy awr – fel y gwn yn iawn -ar y bws. Byddai eraill yn ffafrio ailystyried y beirianneg yn llwyr, gan gynnig dull cledrau ysgafn, efallai, o’r math sy’n caniatáu i drenau fynd oddi ar y cledrau i redeg ar olwynion yn hytrach na chledrau traddodiadol. Byddai hynny yn golygu, o bosibl, llai o waith peirianyddol. Yr hyn sydd gennym erbyn hyn, yn siŵr, yw’r dechnoleg a’r beirianneg nad oedd gan y Fictoriaid, ac ni fyddai codi lein o’r fath yn anhawster peirianyddol o gwbl.

Cwestiwn arall, mae’n wir, yw’r defnydd a’r gost. Rwy’n ffyddiog nad oes amheuaeth y daw pobl i ddefnyddio’r lein hon. Aiff yn gyswllt hanfodol rhwng de a gogledd Cymru, ac o’r gorllewin i Abertawe a Chaerdydd. Mae 55,000 o bobl yn byw ar hyd y llwybr arfaethedig rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, sy’n cymharu â’r 50,000-sydd ychydig yn llai – sydd yn byw ar hyd y llwybr o Aberystwyth i’r Amwythig. Mae’r lein honno nid yn unig ar agor o hyd, ond mae’n cynyddu o ran ei defnydd. Gyda thwf Caerfyrddin ac Aberystwyth fel canolfannau gwaith ac economaidd – ac mae Plaid Cymru am weld mwy o ffocws ar hynny – nid oes dwywaith na fyddai’r lein yn denu pobl yn eu cannoedd o filoedd. Byddai llawer yn ei defnyddio i gymudo, i ymweld ag ysbytai, i siopa ac fel rhan o’r rhwydwaith o’r de i’r gogledd. Byddai llawer o bobl eraill am ei defnyddio ar gyfer twristiaeth, mae’n siŵr. Byddai hyd yn oed yn gyfle i symud ambell un o lorïau Mansel Davies oddi ar yr hewl ac i’r rheilffordd.

Byddai’r gost, yn wir, yn her. Adeiladwyd lein newydd ar gyfer ardal y Borders yn yr Alban – yn wir, mae’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd – sy’n 31 milltir o hyd. Bydd yn costio tua £11m y filltir.

Amcangyfrif cost o hyd at £750m i ailgysylltu Caerfyrddin ac Aberystwyth trwy reilffordd.

Mae’n wir fod hynny’n llawer o arian, ond gallai peirianwaith arall ddod â chost y lein i lawr. Os dodwch chi’r mater yng nghyd-destun cau’r bwlch rhwng Cricieth a Bangor, gwelliannau ar lein y Cambrian a lein Calon Cymru, ac yng nghyd-destun cysylltiadau bysus, yr hyn a gewch chi yw rhwydwaith cyfan gwbl genedlaethol a fyddai’n cynnig opsiynau go iawn i deithio heb gar drwy’r rhan fwyaf o Gymru.

At hynny, bydd gennych gynllun a fyddai’n creu gwaith a sgiliau yn y gorllewin ac yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd drwy Ewrop. Byddai cyfle am brentisiaethau lleol, cyfle am sgiliau yn y coleg, a chyfle am gaffael lleol i fusnesau dros gyfnod hir. Byddai buddsoddiad o dros £500m i gysylltu’r ddwy dref bwysig hon yn gwneud mwy i gadw’r iaith yn fyw yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion na’r un strategaeth iaith na’r un tasglu, waeth ba mor wych ydynt.

online casinos UK

Yr hyn yr wyf yn chwilio amdano yw ymdeimlad o ddychymyg a gweledigaeth y gallai’r gorllewin gael gwasanaeth rheilffordd go iawn unwaith eto. Y dasg gyntaf i unrhyw Lywodraeth sy’n cymryd trafnidiaeth gyhoeddus o ddifrif yw sicrhau bod y llwybr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cael ei drin fel coridor trafnidiaeth o bwys cenedlaethol, sydd â gwasanaethau bysiau rheolaidd.

Ar ôl yr astudiaeth dichonoldeb a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru rydym angen rhaglen fuddsoddi fawr yn isadeiledd trafnidiaeth er mwyn adeiladu’r peiriant economaidd y gorllewin.

Author