Home » Amodau carchar “annynol” yn rhwystr i adsefydlu
Cymraeg

Amodau carchar “annynol” yn rhwystr i adsefydlu

NID YW trefn garchardai San Steffan yn “addas at y diben”, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts.

Galwodd AS Plaid Cymru am dymheru “egwyddorion dwrdio a dial” gan “foeseg adsefydlu ac adfer”, wrth i boblogaeth y carchardai saethu i’r entrychion ac i lefelau hunan-niweidio a hunanladdiad ymysg carcharorion fod yn uwch nac erioed o’r blaen. Cymerodd pedwar carcharor eu bywydau eu hunain lai nac wythnos wedi cyrraedd Carchar Abertawe dros y pedair blynedd diwethaf, ac y mae gorlenwi difrifol, toriadau llym mewn cyllidebau a phrinder dybryd staff wedi golygu, mewn rhai achosion, fod carcharorion yn cael eu cloi yn eu celloedd am 23 awr y dydd.

Wrth siarad mewn dadl yn Neuadd Westminster yma ar iechyd meddwl mewn carchardai, dywedodd Liz Saville Roberts fod cadw carcharorion mewn amodau annynol yn rhwystro ymdrechion i adsefydlu, ac yn gwaethygu problemau iechyd meddwl y mae llawer o garcharorion yn dioddef ohonynt.

Mae Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn cynnig ‘Gweledigaeth Amgen am Garchardai’, gan alw ar i garchardai fod yn “llefydd lle mae diwygio go-iawn yn digwydd a lle mae pobl yn cael eu trin mewn ffordd sydd yn esgor ar barch cyffredinol at ei gilydd a gwir adsefydlu”.

Galwodd Ms Saville Roberts hefyd ar i garcharorion sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt allu cael gwasanaethau yn eu mamiaith, gan ddadlau fod gwadu hawliau iaith i garcharorion yn dwysau eu teimlad o ynysu ac unigrwydd. Cred Plaid Cymru y dylai cyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli i Gymru, i adlewyrchu’r sefyllfa yn yr Alban, a chaniatáu i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall y system cyfiawnder troseddol ateb anghenion unigryw Cymru.

Wrth siarad yn y ddadl, meddai llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts AS: “All cymdeithas wâr gyda system cyfiawnder troseddol sy’n gweithio ddim goddef y lefelau presennol o hunan-niweidio a hunanladdiad ymysg carcharorion. Mae hyn, a dyblu poblogaeth y carchardai dros y 30 mlynedd diwethaf, yn arwydd bod trefn garchardai San Steffan yn sylfaenol anaddas at y diben.

“Mae angen diwygio ein system o gosbi a charcharu. Rhaid tymheru egwyddorion hen-ffasiwn dwrdio a dial â moeseg adsefydlu ac adfer.

“Mae gorlenwi eithafol, toriadau llym i gyllidebau a phrinder dybryd o staff yn golygu ei bod yn dod yn gynyddol gyffredin i garcharorion gael eu cloi yn eu celloedd am 23 awr y dydd – celloedd, fel y rhai yng Ngharchar Lerpwl, a ddisgrifiwyd gan Brif Arolygydd y Carchardai fel rhai “aflan, brwnt a gwarthus”.

“Mae gwneud i unrhyw un, waeth beth fo’u troseddau, ddioddef amodau annynol yn amlwg yn rhwystro unrhyw ymgais i adsefydlu, a gall ond waethygu’r problemau iechyd meddwl y mae cymaint o garcharorion yn ddioddef.

“Os ydym am wneud carchardai yn wir yn llefydd i ddiwygio, gydag adsefydlu ac adfer yn ganolog iddynt, rhaid i ni greu amgylchedd lle gall y carcharorion deimlo’n gyfforddus, a darparu gofal iechyd meddwl digonol, i hwyluso’r adfer hwnnw.

online casinos UK

“Un esiampl pwysig iawn o hyn yw darparu gwasanaethau yn Gymraeg i siaradwyr Cymraeg. Mae llawer o bobl yng Nghymru, yn byw eu bywydau trwy’r Gymraeg. Rhaid i gael eich anfon i garchar, am ba bynnag drosedd, olygu y gall pobl ddal i allu cael gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.

“Mae gwadu hawliau o’r fath i droseddwyr yn aml yn gwaethygu’r ymdeimlad o unigrwydd y mae cymaint o garcharorion eisoes yn deimlo.

“Trwy fethu a gweithredu ar y niferoedd enbyd o hunan-niweidio a hunanladdiad mewn carchardai, yr ydym mewn gwirionedd yn cytuno â’r gosb eithaf sy’n digwydd ar hap a heb gyfiawnder.”

Author

Tags