Home » Cymryd cip ar gorneli tywyll o fewn Ein Byd
Cymraeg

Cymryd cip ar gorneli tywyll o fewn Ein Byd

DROS yr wythnosau nesaf bydd camerâu Ein Byd yn mynd dan groen rhai o’r pynciau mwyaf dadleuol o fewn ein cymdeithas, gan gynnwys edrych ar y diwylliant o wyliau yfed ym Magaluf, dilyn herwyr paedoffilia wrth iddynt dargedu unigolion a thrafod diwylliant gynnau yn America.

Y newyddiadurwr o ITV Cymru, Siôn Jenkins, fydd yn ymchwilio i’r straeon hyn. Mae Siôn yn wyneb cyfarwydd ar ôl iddo gyflwyno Hacio ond mae’n disgrifio gweithio ar raglenni dogfen Ein Byd fel “breuddwyd o swydd” oherwydd ei fod yn cael cyfle i roi pynciau cyfoes o dan y chwyddwydr.

“Mae gwaith yr helwyr paedoffiliaid, y straeon ‘sex for rent’, a phobl fel yr escort 61 mlwydd oed yn sicr yn guddiedig o fewn ein cymdeithas ni. Falle bo’ ni ddim eisiau gwybod gormod amdanyn nhw, ond dwi’n credu fod e’n bwysig bod ni’n siarad amdanyn nhw, achos mae’r pethe yma yn digwydd yn y gymdeithas gyfoes a’r byd sydd o’n cwmpas ni,” meddai Siôn.

“Fe ges i lwyth o brofiadau gwahanol, gan gynnwys treulio amser gyda Mrs Jones, sy’n gweithio fel escort. Yn y rhaglen, helwyr paedoffiliaid, fe ges i fynd ar ‘stings’ gyda’r helwyr – roedd yr un cyntaf yn eitha’ caled gan dy fod yn gwylio bywyd rhywun yn dadfeilio o flaen dy lygaid.”

Yn wreiddiol o Sir Benfro ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Preseli, Crymych, mae gan Siôn gefndir ieithyddol ar ôl astudio Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Durham. Mae’n siarad pum iaith a chafodd gyfle i ddefnyddio’r pump fel rhan o’r gyfres sy’n ein tywys i Las Vegas, Magaluf yn Sbaen a Pharis, Ffrainc. Roedd hefyd cyfle i herio unigolion a defnyddio dulliau ffilmio cudd.

“Dwi wrth fy modd yn ‘neud doorsteps. Roedd yr adrenalin yn pwmpio, yn enwedig ar gyfer y rhaglen ‘sex for rent’ pan o’n i’n gorfod wynebu (a rhedeg ar ôl!) y dynion ‘ma sy’n cymryd mantais o ferched.”

Mae’r rhaglen gyntaf yn dod o Las Vegas lle mae Siôn yn cyfarfod rhai o oroeswyr yr ymosodiad ym mis Hydref 2017 lle cafodd dros 50 o bobl eu lladd. Bydd e’n cyfarfod unigolion sydd o blaid ac yn erbyn defnyddio gynnau.

“Roedd Las Vegas yn brofiad anhygoel ac mor wahanol i be’ ni’n gyfarwydd ag e fan hyn. Ges i gyfle i gwrdd â Chymry Cymraeg sy’n byw ‘na; saethu gynnau sydd wedi’u gwahardd fan hyn a dysgu lot am ddiwylliant America.”

Author

Tags