Home » Arddangosfa yn Nhŵr Oriel y Parc yn dathlu Sir Benfro
Cymraeg

Arddangosfa yn Nhŵr Oriel y Parc yn dathlu Sir Benfro

MAE ARTIST a bardd sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd Sir Benfro wedi dod â’u gwaith at ei gilydd mewn arddangosfa yn Nhŵr Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi.

Mae’r arddangosfa Tir: Dathlu Sir Benfro gan y gŵr a’r wraig Ieuan a Janet Daniel, yn gasgliad o waith celf a cherddi sydd wedi’u hysbrydoli gan goed, bywyd gwyllt, môr, daeareg ac archaeoleg hynafol Sir Benfro.

Maent wedi treulio’r 35 mlynedd diwethaf yn ymweld â’r ardal ac yn teithio ar hyd a lled Sir Benfro, gydag Ieuan yn astudio ac yn paentio delweddau o’r dirwedd.

Dywedodd Ieuan: “Mae fy ngwaith yn cyfleu i mi beth yw hanfod bod yn Gelt; gyda grym bywydol yn greiddiol; natur, pŵer a rhyfeddodau tirwedd hynafol Cymru, a’r ffaith ei bod yn dirywio ac yn aildyfu. Mae hyn yn rhan bwysig o’m hymateb creadigol i fywyd a thirwedd Sir Benfro.

“Fy nod yw helpu ymwelwyr a thrigolion i edrych allan tua’r môr a thua’r glannau hefyd, gan weld sut mae’r elfennau wedi llunio’r dirwedd naturiol sy’n ffurfio’r cromliniau o amgylch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac sy’n ymestyn tua ffiniau’r sir.”

Bydd rhai o gerddi Janet, ei wraig, yn cael eu harddangos ochr yn ochr â’i waith. Bydd y cerddi’n cyd-fynd yn dda â’r gwaith celf i gyfleu profiad o dirwedd Sir Benfro a’r grymoedd naturiol sydd ar waith yma.

Astudiodd Ieuan gelf yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, ac arferai fod yn Bennaeth Celf mewn ysgol gyfun fawr am 30 o flynyddoedd. Mae’n defnyddio cyfryngau cymysg yn bennaf yn ei waith, gan gynnwys inciau lliw, pastelau acrylig, creonau cwyr a collage.

Mae wedi arddangos ei waith ym Mhrydain a thramor, ac mae wedi cael ei ysbrydoli gan waith Graham Sutherland a Vincent Van Gogh, ymysg eraill.

Ychwanegodd Parcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Ian Meopham: “Mae gwaith Ieuan wedi cyfleu un o elfennau nodedig tirwedd y Parc Cenedlaethol, y drain sydd wedi cael eu chwipio gan y gwynt.

“Mae’r drain sydd wedi cael eu chwipio gan y gwynt yn gerfluniau byw ac yn cymryd degawdau i dyfu, yn brwydro er gwaethaf popeth, drwy bob math o dywydd, ond maen nhw’n cael eu torri o’n gwrychoedd yn aml yn ystod yr haf.”

online casinos UK

Bydd arddangosfa Ieuan a Janet Daniel, Tir: Dathlu Sir Benfro yn Oriel y Parc tan 30 Mai 2015.

Author