MAE CYMORTH CANSER MACMILLAN wedi penodi ei Brif Weithredwr cyntaf erioed o Gymru – Lynda Thomas.
Mae Lynda, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, yn gyn-ddisgybl Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun. Ganed Lynda ym Mhorthcawl; ar hyn o bryd mae’n Brif Swyddog Gweithredol dros dro gyda’r elusen lle bu hefyd yn Gyfarwyddwr Codi Arian. Bydd yn ymgymryd â’r gwaith yn syth.
Dechreuodd Lynda ei gyrfa’n gweithio ym maes cyfathrebu ar gyfer elusennau gan gynnwys Gweithredu dros Blant a’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Ymunodd â Macmillan yn 2001 fel Pennaeth y Cyfryngau lle datblygodd gangen ymgyrchu’r elusen a lle bu’n rhan o’r tîm a oruchwyliodd y gwaith o ddatblygu’r brand sydd wedi ennill sawl gwobr. Cafodd ei dyrchafu i lefel y bwrdd fel Cyfarwyddwr Materion Allanol yn 2007.
Ym mis Awst 2011 daeth yn Gyfarwyddwr Codi Arian lle bu’n arwain 400 aelod tîm codi arian yr elusen sydd wedi cynyddu’r incwm codi arian dros draean yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Ers mis Tachwedd 2014, ymgymerodd Lynda â rôl Prif Swyddog Gweithredol (Dros Dro) Macmillan tra oeddid yn recriwtio Prif Weithredwr newydd. Mae Lynda hefyd yn ymddiriedolwr gyda’r Sefydliad Codi Arian, Sefydliad Chwaraeon a Ffitrwydd Menywod ac yn gyfarwyddwr ar Fwrdd Safonau Codi Arian.
Meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Macmillan yng Nghymru: “Rwyf wrth fy modd mai Lynda fydd ein Prif Weithredwr newydd. Mae hi wedi hyrwyddo Cymru ers tro byd ac mae’n teimlo’n angerddol am wella bywydau pawb sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Bydd hi’n gaffaeliad enfawr i Macmillan ledled y DU.”
Meddai Lynda: “Ar ôl gweithio gyda Macmillan ers bron i 14 blynedd rwy’n gwybod yn iawn am y gwahaniaeth enfawr rydym yn ei wneud i fywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser, felly mae hi’n anrhydedd wirioneddol imi fod yn Brif Swyddog Gweithredol newydd Macmillan. Gan y bydd nifer y bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yng Nghymru’n cyrraedd 250,000 erbyn 2030 mae gennym her enfawr o’n blaenau. Ond credaf na fu Macmillan erioed cyn gryfed er mwyn cyflawni’r cymorth a’r newid sydd eu hangen i sicrhau nad oes neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun.”
Add Comment