Home » Ffordd newydd o weithio gyda’r Sector Cyhoeddus
Cymraeg

Ffordd newydd o weithio gyda’r Sector Cyhoeddus

GWNAETHPWYD camau breision ymlaen yn y ffordd o gyd-weithio gyda’r sector cyhoeddus wrth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant arwyddo cytundebau gyda thri awdurdod lleol yn y rhanbarth.

Bwriad y cytundebau– gyda Chynghorau Sir Ceredigion a Chaerfyrddin, a Chyngor Dinas a Sir Abertawe – yw gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl sy’n byw, gweithio ac ymweld â De Orllewin Cymru ac maent yn arwydd o ymrwymiad Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion, i gyfnerthu’r berthynas waith yn y siroedd lle y lleolir ei phrif gampysau. Mae’r Brifysgol yn awyddus i wneud mwyaf o’I heffaith ar y rhanbarth drwy sianelu talentau a sgiliau staff, myfyrwyr a graddedigion i gyflawni ar y meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer pob un o’r sefydliadau.

“Mae adduned y Brifysgol i bob un o’r awdurdodau lleol y mae ei champysau wedi eu lleoli ynddynt yn dangos ffordd newydd o gydweithio er budd y rhanbarth,” meddai’r Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd PCYDDS. “Rydym wedi ymrwymo i’r cymunedau hynny ac am sicrhau bod PCYDDS yn cyfrannu at eu lles drwy ddefnyddio ein hadnoddau a’n doniau i wasanaethu lles y cyhoedd”.

Mae’r addewidion yn eu hanfod yn ddatganiadau o fwriad i gydweithio i gyflawni nodau a fydd yn elwa pawb mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys ymrwymiadau i ddatblygu cynaliadwy; strategaethau gwrth-dlodi, datblygu economaidd, menter, arloesi ac adfywio, a datblygu cymunedol. Mae’r addewidion hefyd yn canolbwyntio ar uchafu potensial y rhanbarth ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol ac yn dathlu ei hanes a’i threftadaeth unigryw drwy fanteisio ar ei photensial twristiaeth.

Bydd PCYDDS yn cydweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion i ddatblygu ymatebion arloesol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig ac ar ddarparu gweithgareddau ymgyfoethogi ar gyfer dysgwyr ôl- 16 yng Ngheredigion. Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion “Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i gydweithio’n agos â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Credwn yn gryf y bydd y berthynas newydd hon sy’n cael ei meithrin rhwng ein sefydliadau trwy ymrwymo i’r Adduned a fydd o fudd mawr i boblogaeth Ceredigion.”

Bydd y gwaith gyda Cheredigion a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn cynnwys uchafu enw da’r rhanbarth fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer y gadwyn gyflenwi bwyd drwy feithrin partneriaethau gyda chynhyrchwyr a chyflenwyr. Bydd nodau gweithredu penodol gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn ymwneud â chefnogi adleoliad pencadlys S4C i Sir Gaerfyrddin ac ar ddatblygiad o ran yr iaith a’r diwylliant drwy Ganolfan Gymraeg newydd y Brifysgol yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin : “Rydym yn falch iawn o lofnodi’r adduned hon gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn elwa rhychwant o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin.”

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’r adduned yn adlewyrchu nifer o feysydd allweddol sy’n flaenoriaethau i’r Cyngor ac i’r Brifysgol ac mae’n anelu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r ardal. Rydym am fanteisio ar y cyfoeth o brofiad ac arbenigedd sydd o fewn y Brifysgol er mwyn ysgogi twf economaidd yn y rhanbarth ac i archwilio cyfleoedd newydd sy’n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant, yn ogystal â hamdden a thwristiaeth”.

Author