Home » Cynyddu Effeithlonrwydd eich Fferm
Cymraeg

Cynyddu Effeithlonrwydd eich Fferm

BYDD Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynnal digwyddiad technegol cam-YMLAEN yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth yng Ngogerddan ddydd Mercher 31 Ionawr am 6.30pm.

Bydd y digwyddiad, ‘Cynyddu Effeithlonrwydd Eich Fferm’ yn canolbwyntio’n bennaf ar bridio glaswellt ac wyna. Bwriad y digwyddiad fydd pedwar siaradwr arbenigol yn rhannu gwybodaeth ymarferol, gan ddod ag ymchwil diweddaraf yn uniongyrchol i’r ffermwyr a’r myfyrwyr sy’n bresennol, gan arwain at hwb i broffidioldeb a chynaliadwyedd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Mr Alan Lovatt a Dr Jon Moorby o Brifysgol Aberystwyth, Roger Daniel o Ganolfan Milfeddygaeth Cymru ac Iwan Lewis o Filfeddygon Ystwyth.

Yn cychwyn y digwydiadd bydd gydag Alan Lovatt, Bridiwr Glaswellt Hŷn sydd wedi bod yn rhan bwysig o’r rhaglen bridio glaswellt siwgr uchel yn IBERS, yn trafod dyfodol bridio glaswellt. Yn dilyn o hyn a gan barhau gyda’r thema o laswellt, bydd Dr Jon Moorby, Darllenydd mewn maeth da byw a Chyfarwyddwr Ymchwil Rhyngwladol yn IBERS, yn trafod ‘Asidau Brasterog Glaswellt: eu pwysigrwydd ar gyfer cynhyrchu anifeiliaid mewn ffordd gynaliadwy.’

Bydd y digwyddiad yn parhau gyda Roger Daniel o Ganolfan Wyddoniaeth Milfeddygol Cymru (WVSC) a fydd yn cyflwyno ar sut gall ffermwyr elwa o’i gwasanaethau. Iwan Lewis o Filfeddygon Ystwyth a fydd yn cloi’r noson gan drafod, ‘Ydych chi’n barod am wyna?’

Mae hyn yn addo i fod yn sesiwn fuddiol i bawb sy’n rhan o’r tymor wyna sydd i ddod. Dywedodd Gwawr Parry, Swyddog Datblygu’r Diwydiant yn HCC: “Bydd y digwyddiad cam-YMLAEN yn darparu gwybodaeth addysgiadol a deallus am bridio glaswellt a bydd y rheiny sy’n bresennol yn derbyn gwybodaeth hanfodol gan y siaradwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes. Bydd sgwrs Iwan Lewis yn benodol yn canolbwyntio ar y camau hanfodol y mae angen eu cymryd cyn ac yn ystod y cyfnod wyna.

​”​Mae hyn yn dradfodaeth amserol gan fod ffermwyr wrthi’n paratoi ar gyfer y tymor wyna yn ar hyn o’r brydl.”

Os hoffech chi fynychu cyfarfod Cam-YMLAEN 2018 yn IBERS ar Gampws Gogerddan nos Fercher 31 Ionawr am 19:00, cysylltwch â HCC i gofrestru: [email protected] / 01970 625050. Bydd cofrestru’n cychwyn am 18:30 a’r cyfarfod yn dechrau am 19:00. Darperir lluniaeth ysgafn.

Author

Tags