Home » Celf Gymunedol yn tyrru i’r Tŵr yn Oriel y Parc
Cymraeg

Celf Gymunedol yn tyrru i’r Tŵr yn Oriel y Parc

celfFE FYDD GWAITH celf a grëwyd gan aelodau grwpiau cymunedol dau gartref gofal preswyl yn cael ei ddangos yn y Tŵr yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc o fis Tachwedd.

Gydag ysbrydoliaeth gan dirwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae oedolion o grwpiau Gofal yn y Gymuned Ty’n y Coed Rhosfarced a Thyddewi wedi bod wrthi’n creu eu campweithiau eu hunain ar gyfer muriau’r Tŵr yn yr Oriel.

Meddai Cynorthwyydd Oriel y Parc, Elly Morgan: “Mae’r arddangosfa, o’r enw Made It! yn gipolwg lliwgar ar fyd pob unigolyn trwy gelf. Mae’n dathlu creadigrwydd a chymeriad pob person.
 “Wrth greu’r gwaith celf yma, mae’r grwpiau wedi bod mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol yn y Parc Cenedlaethol, ac
wedi gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr yr Awdurdod, ac maen nhw hefyd wedi
ymweld ag Oriel y Parc i gael ysbrydoliaeth artistig. Yn ogystal ag ysbrydoli gweithiau celf unigryw, mae’r profiadau hyn wedi cynnig heriau ffres  a mecanweithiau cymorth estynedig ac wedi helpu meithrin cyfeillgarwch.”

Fe fydd yr arddangosfa ar waith o ddydd Llun 4 Tachwedd 2013 hyd nes 31 Ionawr 2014, gyda blas Nadoligaidd i’r gwaith dros gyfnod y Nadolig.

Rheolir Oriel y Parc gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Rheolir ei phrif oriel mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac mae’n cynnwys rhaglen barhaus o arddangosfeydd gyda thrysorau o’r casgliad cenedlaethol.

Defnyddir y Tŵr gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel lleoliad ar gyfer arddangosfeydd celf cymunedol a dosbarthiadau cymunedol.

Rhowch glic ar www.orielyparc.co.uk ar gyfer yr amserau agor ac am wybodaeth bellach.

Author