Home » Diddordeb yng Nghynulliad Bwyd Caerfyrddin yn tyfu
Cymraeg

Diddordeb yng Nghynulliad Bwyd Caerfyrddin yn tyfu

MAE mwy a mwy o bobl yng Nghaerfyrddin yn rhoi’r gorau i’r archfarchnad ac yn prynu bwyd ffres yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr lleol.

Mae Cynulliad Bwyd Caerfyrddin – platfform ar-lein sy’n galluogi cyswllt uniongyrchol rhwng y cwsmeriaid a’r cynhyrchwyr – yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan helpu pobl i gael mwy o reolaeth ar yr hyn sydd ar eu platiau yn ogystal â chefnogi busnesau lleol.

Bu’r Cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf yr wythnos hon. Erbyn hyn, mae ganddo 700 o gwsmeriaid ac 20 o gynhyrchwyr ac mae ffrwythau, llysiau, cig, cynhyrchion llaeth a nwyddau wedi’u pobi yn cael eu gwerthu a’u casglu bob wythnos.

Mae’r cwsmeriaid yn archebu eu nwyddau drwy ddefnyddio’r platfform ar-lein, gan roi ceisiadau arbennig i’r cynhyrchwyr os oes angen, cyn iddynt gasglu’r nwyddau ar y diwrnod casglu yn Xcel yn Nhre Ioan, Caerfyrddin, neu The Warren yn Heol Mansel, Caerfyrddin.

Yn ogystal â chefnogi’r economi leol, mae’r Cynulliad hefyd yn rhoi manteision o ran iechyd a’r amgylchedd – gall cwsmeriaid gael gwybod yn union beth sydd yn eu bwyd, ac mae’r ôl-troed carbon yn llai hefyd gan fod y bwyd yn teithio pellter o 28 milltir i’r pwynt casglu ar gyfartaledd, o’i gymharu â thua 600 o filltiroedd i’r archfarchnad.

Mae hefyd yn lleihau gwastraff gan nad oes unrhyw beth yn cael ei gasglu na’i bobi oni bai bod cwsmer yn ei archebu.

Mae’r trefnydd, Carrie Laxton, yn feddyg teulu sydd wedi ymddeol. Gwelodd fuddion Cynulliad Bwyd a phenderfynodd ei sefydlu yng Nghaerfyrddin gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Mae cynhyrchwyr lleol yn brwydro i gael bywoliaeth, ac mae hon yn ffordd ddelfrydol o’u cefnogi,” meddai.

“Mae gennym rhwng 12 a 18 o gynhyrchwyr y rhan fwyaf o’r wythnosau sy’n gosod marchnad fach yn ein mannau casglu er mwyn cwrdd â’u cwsmeriaid a dosbarthu’r nwyddau y maent wedi’u harchebu ymlaen llaw. Mae’n sicrhau bod bwyd lleol da yn fwy hygyrch i bobl leol yn ogystal â chefnogi cynhyrchwyr lleol.”

Dywedodd Cefin Campbell, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig: “Mae hon yn ffordd wych o gefnogi’r economi leol a chynhyrchwyr lleol. Mae diwydiannau gwledig yn parhau i gael anhawster ond wrth i gwsmeriaid ddod yn fwy ymwybodol o’r hyn y maent yn ei fwyta, gobeithiwn y byddant yn mynd yn ôl i’r ffordd fwy traddodiadol o siopa, sef prynu gan ffermwyr, pobwyr a chigyddion lleol.

online casinos UK

“Mae’r Cynulliad Bwyd yn helpu i gysylltu’r cwsmeriaid â’r cynhyrchwyr a thrwy ddod â’r elfen fodern o archebu ar-lein, mae’n gweithio’n dda ar gyfer nifer gynyddol o bobl.”

Gall unrhyw un gofrestru i fod yn un o gwsmeriaid y Cynulliad Bwyd, ac anogir cynhyrchwyr bwyd o gwmpas ardal Caerfyrddin i gael gwybod sut y gallant gymryd rhan.

Rhagor o wybodaeth yn www.foodassembly.com

Author

Tags