Home » Hanfod Cymru yn cyhoeddi ddod i ben
Cymraeg

Hanfod Cymru yn cyhoeddi ddod i ben

MAE BWRDD Hanfod Cymru, yr elusen ddyrannu grantiau, wedi cyhoeddi ei fod am ddod i ben yn ystod haf 2019 – er gwaetha ei lwyddiant ysgubol yn dyrannu grantiau gwerth £120,000 i 52 o elusennau yn y cyfnod ers ei lansio ym mis Ebrill 2017. Mae’r penderfyniad hwn yn uniongyrchol gysylltiedig â phenderfyniad Bwrdd Loteri Cymru i roi’r cwmni hwnnw yn nwylo’r gweinyddwyr ar 27ain Mawrth ar ôl 11 mis o fasnachu.

Er bod Hanfod Cymru yn elusen ac yn gwmni cwbl annibynnol, Loteri Cymru oedd unig ffynhonnell ariannol Hanfod Cymru i’w alluogi i ddosbarthu grantiau. Mae Bwrdd Hanfod Cymru wedi bod yn rhan o’r trafodaethau i geisio dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer Loteri Cymru ond daeth y Bwrdd i’r farn wythnos diwethaf, gyda Loteri Cymru yn nwylo gweithredwr newydd, na fuasai Hanfod Cymru yn medru dosbarthu grantiau ar lefel ddigonol i fedru bodloni amcanion canolog yr elusen, sef gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusennau ar lawr gwlad cymunedau Cymru.

Dywedodd Deris Williams, Cadeirydd Hanfod Cymru: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf ers lansio Hanfod Cymru, wedi bod yn un lwyddiannus tu hwnt. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusennau ar lawr gwlad ar draws Cymru. Rydym wedi bod yn ffodus tu hwnt hefyd o fod wedi cael aelodau nodedig o staff i yrru’r elusen ymlaen ac mae’n fater o dor-calon i fwrdd Hanfod Cymru ein bod yn awr angen gwneud y staff yn ddi-waith. Bydd Siôn Brynach, y Prif Weithredwr ac Angharad Gaylard, y Swyddog Gweinyddu Grantiau, yn gadael eu swyddi ar ddiwedd Mai eleni.

“Bwriad Bwrdd Hanfod Cymru bellach yw bodloni’r gofynion statudol sydd arnom, a chymryd y camau sydd eu hangen i ddod â’r elusen i ben. Disgwyliwn fedru gwneud hynny erbyn haf 2019.”

Aeth Deris yn ei blaen gan ddweud: “Mae Hanfod Cymru wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r tirwedd ariannu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal mae’r staff wedi arloesi ym maes cyhoeddusrwydd gan gyhoeddi fideo ar wefan Hanfod Cymru a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol yn wythnosol er mwyn tynnu sylw nid yn unig at Hanfod ei hun, ond hefyd at yr elusennau sydd wedi derbyn grantiau gennym.

“Mae’n fater o falchder i’r Bwrdd ac i’r Staff ein bod wedi llwyddo i godi proffil yr elusen mor effeithiol mewn amser mor fyr, ac yn siomedig tu hwnt bod angen yn awr i ni ddod â’r gweithgarwch nodedig hwn i ben.

“Er na fyddwn yn medru dosbarthu unrhyw grantiau pellach, byddwn yn dod â’r elusen i ben gyda record gwirioneddol drawiadol o fod wedi cynorthwyo 52 o elusennau led-led Cymru trwy ddosbarthu grantiau gwerth £120,000 i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ar lawr gwlad.”

Author

Tags