Home » Dirwy o £125,000 i Loveworld am ddarlledu cynnwys coronafeirws niweidiol
Cymraeg

Dirwy o £125,000 i Loveworld am ddarlledu cynnwys coronafeirws niweidiol

HEDDIW mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £125,000 ar y sianel lloeren grefyddol, Loveworld, ar ôl i’n hymchwiliad ganfod ei fod wedi torri rheolau darlledu am yr eildro mewn blwyddyn.

Yn ystod rhaglen 29 awr – The Global Day of Prayer – gwelsom fod y cynnwys newyddion a’r pregethau’n cyflwyno damcaniaethau di-sail am y coronafeirws a allai fod yn niweidiol, heb ddarparu diogeliad digonol i wylwyr.

Roedd y rhaglen yn cynnwys datganiadau fu’n honni bod y pandemig yn ddigwyddiad “wedi’i gynllunio” a grëwyd gan y “wladwriaeth ddofn” at ddibenion anfad, a bod y brechlyn yn ffordd “sinistr” o weinyddu “nanosglodion” i reoli a niweidio pobl. Honnodd rhai datganiadau fod profion “twyllodrus” wedi’u cynnal i dwyllo’r cyhoedd am fodolaeth y feirws a graddfa’r pandemig. Roedd datganiadau eraill yn cysylltu Covid-19 â chyflwyno technoleg 5G. 

Mae Ofcom yn pwysleisio bod trafodaeth ddilys am yr ymateb swyddogol i bandemig y coronafeirws yn hanfodol i ddwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif yn ystod argyfwng iechyd byd-eang – yn enwedig pan gaiff rhyddid cyhoeddus ei gwtogi a bod penderfyniadau polisi cymhleth yn cael eu gwneud. Fodd bynnag, ni chefnogwyd yr honiadau a allai fod yn niweidiol a wnaed yn ystod y rhaglen hon gan unrhyw dystiolaeth ffeithiol ac ni chawsant eu herio o gwbl. 

Roedd methiant Loveworld i roi’r datganiadau di-sail hyn yn eu cyd-destun yn peri risg o niwed difrifol i’w gynulleidfa. Roedd ganddynt y potensial i danseilio hyder mewn mesurau iechyd cyhoeddus sydd wedi cael eu rhoi ar waith i daclo Covid-19, ar adeg pan oedd achosion, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau yn codi yn y DU, a phan oedd pobl yn chwilio am wybodaeth ddibynadwy o ystyried y cynnydd yn y rhaglen frechu.

Roeddem wedi cyfarwyddo Loveworld i beidio ag ailadrodd y rhaglen, ac i ddarlledu crynodeb o’n canfyddiadau. Ond, o ystyried difrifoldeb y tor-rheolau, rydym yn ystyried hefyd bod cosb statudol bellach wedi’i chyfiawnhau. Mae’n rhaid i Loveworld dalu cosb ariannol o £125,000, a gaiff ei throsglwyddo i Dâl-feistr Cyffredinol EM.

online casinos UK

Author