Home » Dyddiad cau ar gyfer bridwyr yn agos
Cymraeg

Dyddiad cau ar gyfer bridwyr yn agos

Rheolau newydd : Yn gosod cyfyngiadau ar ff ermydd cŵn bach.
Rheolau newydd : Yn gosod cyfyngiadau ar ff ermydd cŵn bach.

MAE REBECCA EVANS, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, wedi atgoff a bridwyr cŵn Cymru y bydd y gyfraith yn newid ymhen pedair wythnos gan greu meini prawf llymach ar gyfer lles cŵn a chŵn bach yn eu gofal. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 30 Ebrill 2015 ymlaen, ac yn eff eithio ar fridwyr sy’n cadw tair gast fridio neu fwy.

Maent yn ei gwneud yn ofynnol cael o leiaf un aelod o staff yn gyfrifol am bob 20 ci yn ei lawn dwf, ac yn gofyn i fridwyr fabwysiadu cynlluniau cymdeithasoli ar gyfer cŵn bach a rhaglenni gwella a chyfoethogi i bob ci. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans: “Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd pryder cynyddol ymysg y cyhoedd am y dull y mae rhai cŵn yn cael eu bridio yng Nghymru, gan gynnwys mewn eiddo wedi’i drwyddedu. Rwy’ wedi ymrwymo’n bersonol i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid ff erm ac anifeiliaid anwes yng Nghymru, dan y Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid. Bydd y rheoliadau sy’n dod i rym yn codi safonau bridio cŵn ar draws Cymru ac yn helpu i gael gwared ag arferion bridio anghyfrifol.

Mae’r safonau sy’n cael eu cyfl wyno’r mis nesaf yn un enghraiff t o waith Llywodraeth Cymru i wella lles cŵn. Yn 2010, penderfynodd Llywodraeth Cymru ddeddfu i wahardd coleri sioc electronig, ac rwy’n ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch agweddau technegol cynllun i’w gwneud yn orfodol gosod microsglodion ar gŵn yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd mewn cyfl euster bridio.” Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, yr Athro Christianne Glossop: “Rhaid deall pwysigrwydd cymdeithasoli cŵn bach mewn ff ordd briodol.

Mae profi adau cŵn bach yn ystod y cyfnod rhwng tair a 14 wythnos gyntaf eu bywydau yn cael eff aith barhaol ar eu hymddygiad yn ddiweddarach. Mae’r Rheoliadau hyn yn cydnabod swyddogaeth y bridwyr wrth helpu pob ci bach yn eu gofal i symud ymlaen i fod yn anifail anwes da i’r teulu.” Bydd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn disodli Deddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru. Rhaid i fridwyr gysylltu â’u Hawdurdodau Lleol i gael trwydded bridio cŵn neu i gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau.

Author