Home » Noson y Gorweliaid a Chawl Caffi Beca
Cymraeg

Noson y Gorweliaid a Chawl Caffi Beca

PWY DDYWEDODD synnon ni’n gallu creu ein hadloniant ein hunain gwedwch? Towlwch y zapper. Rhowch y gore i wasgu botyme’r cyfrifiadur. Diffoddwch y bocs. Cwatwch yr i-ffôn. A rhowch eich dychymyg ar waith gan ddefnyddio dim mwy na chof a llais. Pe baech chi yng Nghaffi Beca, yn Efail-wen, yn ddiweddar, buasech wedi cael dwy awr ddifyr o frethyn cartre’ ar ben basned o gawl.

Mae Robert James yn adnabyddus am ansawdd ei gawl wrth gwrs. Cawl cartre’ yn llysie a chig sy’n bryd ynddo’i hun yn hytrach na’r cawl tene dwrllyd ‘ma gewch chi yn ambell i fan a chithe’n whilo’n ofer am ddarn bach o gig yn ei ganol. Ac fe gewch chi’r trimins i fynd ‘da ge. Hynny yw, cwlffyn o gaws a thafell o fara. Gallwch ddathlu Gŵyl Ddewi bob dydd o’r flwyddyn yng Nghaffi Beca. Cawl ffarm heb ei ail.

Felly oedd hi ar fanc Efail-wen ar ffin y ddwy sir ar nos Sadwrn ar ddiwedd mis bach. Roedd y llwythe wedi dod ynghyd i fwynhau adloniant wedi’i ddarparu gan lwyth y Lewysiaid neu griw’r Gorwelion o gyffinie Login. Sdim rhyfedd fod y lle’n llawn. Roedd un o’r ieuengaf o’u plith, Gwyndaf, yn codi arian ar gyfer ymweld â Phatagonia yn yr haf. Fe’n tywyswyd nôl i ddyddie’r Nosweithie Llawen yn garlibwns.

Beth gafwyd te meddech chi? Wel, wnâi ddim datgelu’r cwbl. Ond i roi rhyw awgrym i chi, roedd tair cyfeilyddes gan y criw i eilio wrth y piano. Cafwyd caneuon cyfarwydd gan unigolion, deuawdau, partïon a hyd yn oed côr cyfan pan oedd y teulu’n grwn ar y llwyfan. Wrth gwrs bod yna elfen fyrfyfyr yn perthyn i’r cyfan. Ond roedd hynny’n ychwanegu at yr ysbryd cartrefol, gwlei.

Cafwyd sgetsus a’r rheini’n digwydd yng nghanol y gynulleidfa. Roedd ymdrech y pwr dab i gofio archeb diodydd un byrdded erbyn iddo gyrraedd y bar ac ail-gynnig sawl gwaith i’w gael yn gywir yn dreth ar amynedd ei gefnder o farman ond yn codi gwên ar wyneb y gynulleidfa. ‘Ma fe wedi cymysgu’n garbel to’! medde rhywun wrth fy ymyl.

Roedd y ddau strab hŷn wedyn, Eurfyl fel doctor, a’i frawd, Tudur, fel claf yn y syrjeri nad oedd ar frys, a’r holl gleifion eraill a’u hanhwylderau difrifol, yn creu rhialtwch. Ni chredaf fod yna’r fath syrjeri yn Arberth na Hendy-gwyn. Llwyddodd Eurfyl i esgor babi ei chwaer yn y fan a’r lle mewn dwy funud. Fiw i mi ddatgelu pam nad oedd Tudur ar hast i weld y meddyg er taw fe oedd y claf cyntaf i gyrraedd. Bodlon oedd i adael pawb arall i fynd at y stethosgop o’i flaen. Pert ‘achan.

Ond rhaid cyfeirio at y gân sgets canu gwlad a’r gân grafog am gyn-brif weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry Jones, a phrif weithredwr presennol Sir Gar, Mark James. Go dda wir. Ma’r canu gwlad ‘ma’n gallu arwain dyn i’r dwnshwn eithaf o ddiflastod ac anobaith. A bydd hanes y Porsche fyw am getyn, gwlei. Cystel bob tamed â baled Lefi Gibwn i’r ‘Beca’.

Gwn am ambell ardal gyffelyb ble byddai’n rhaid cael cyfran o eiteme yn Saesneg rhag digio’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Fan hyn rhowd cyfle i’r prin eu Cymraeg werthfawrogi’r modd y mae’r Gymraeg yn gallu cynnal noson o adloniant ar ei phen ei hun. Gwnaed y cwbl yn gwbl naturiol. Roedd pawb yn corco wherthin.

Cishwch gyda Gorweliaid Gorwelion i ddod i ddifyrru yn eich ardal chi. A cishwch gyda mam-gu’r un-ar-ddeg o wyrion i roi unawd hefyd. Ond bydd basned o gawl a sêrs ar ei wmed yn gaffaeliad ‘fyd.

Roedd hi’n noson a wnâi fy atgoffa o ddifyrwch Bois y Frenni. A wyddech chi wedyn te fod y parti’n ddeg a thrigain oed eleni? Odyn wir. Ma’ na ddathlu i fod mae’n debyg. Noson yn Neuadd Boncath o gofio mai dyna lle berfformion nhw gyntaf erioed o dan arweiniad y chwedlonol Wil Glynsaithmaen. Ma’ nhw’n dal i berfformio’n gyson, wrth gwrs, ac yn cyfyngu eu hunain i’r hen ganeuon.

online casinos UK

Ma’ rhywbeth yn braf yn hynny o beth. Ma’n nhw’n dal i ganu cloch a tharo deuddeg yng nghysgod y Frenni Fawr. Ma’ Gwyndaf Lewis yn un o’r aelodau; eled ag afiaith y Preselau yn ei ges i Batagonia.

Author