Home » Galw am ‘ffordd drwyadl Gymreig’ o ddeddfu yn 2014
Cymraeg

Galw am ‘ffordd drwyadl Gymreig’ o ddeddfu yn 2014

ffordd drwyadl GymreigWRTH EDRYCH ymlaen at y Flwyddyn Newydd mae Comisiynydd y Gymraeg yn galw ar wneuthurwyr polisi i gynnwys y Gymraeg ym mhob deddfwriaeth, polisi a strategaeth fydd yn effeithio ar fywydau pobl Cymru yn 2014.

Dywedodd Meri Huws:

“Mae tair blynedd ers y refferendwm a roddodd rymoedd deddfu llawn i Gymru mewn materion datganoledig. Mae’n amserol yn awr i Lywodraeth Cymru ddatblygu ‘ffordd drwyadl Gymreig’ o ddrafftio deddfau.

“Mae tair blynedd hefyd ers i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 roi statws swyddogol i’r iaith. Er mwyn i’r statws hwn fod yn rhywbeth mwy na geiriau moel ar bapur, mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog ym mhob maes polisi.

“Byddai gosod y Gymraeg yn weledol ar wyneb deddfau yn fodd i’r Llywodraeth ddangos bod ganddi ffordd unigryw o ddeddfu, mewn modd sy’n cwrdd ag anghenion penodol y wlad ddwyieithog hon a’i dinasyddion.

“Mae biliau a fydd yn cael eu trafod a’u cyflwyno yn y Cynulliad yn 2014 yn rhai sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol o ran ansawdd bywydau pobl. Enghraifft o rhain yw’r biliau sy’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol ac â chynllunio. Byddai gosod y Gymraeg ar wyneb y biliau hyn yn fodd i’r Llywodraeth ddangos ei bod am wella profiad y dinesydd ac ei bod o ddifrif ynghylch gweld y Gymraeg yn ffynnu.

“Ar ddechrau flwyddyn newydd, rwy’n galw’n gyhoeddus ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod y Gymraeg wrth galon polisi Cymru ac yn weladwy yn nrafftio ein deddfwriaeth yn 2014.”

Author