Home » UAC yn herio safbwynt profion ar ôl symud Defra
Cymraeg

UAC yn herio safbwynt profion ar ôl symud Defra

MAE Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at Defra i herio ei safbwynt ar y rheolau profion ar ôl symud sy’n ymwneud â symud gwartheg o Ardal TB Isel yng Nghymru i Ardal Risg Isel yn Lloegr.

Er gwaethaf trafodaethau Llywodraeth Cymru ar y pwnc, bydd profion ôl symud Defra yn parhau ar gyfer ffermwyr sy’n symud gwartheg ar draws y ffin o Gymru ac mae gan yr Undeb bryderon sylweddol ynglŷn â’r goblygiadau o barhau gyda’r drefn bresennol ac effaith andwyol y polisi hwn ar ffermwyr Cymru​.​

Mae nifer yr achosion o TB yng Nghymru yn amrywio’n sylweddol ar draws rhanbarthau ac mae ystadegau TB mewn gwartheg Defra a Llywodraeth Cymru yn dangos bod gan yr Ardal TB Isel yng Nghymru lefelau TB sy’n cymharu â, neu’n well na’r rhai hynny sydd mewn Ardal Risg Isel yn Lloegr.

Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC: “Drwy barhau â’r gofyniad o brofi ar ôl symud, mae Defra wedi parhau i gyflwyno camsyniadau ynglŷn â’r drefn brofi flynyddol yng Nghymru, ac yn anfwriadol wedi dynodi pob plwyf Cymreig fel ardaloedd ‘risg uchel’.

“Mae’r ffaith bod Defra yn gwrthod trafod hyn gyda Llywodraeth Cymru yn hynod o rwystredig gan nad oes rhaid i wartheg sy’n dod i Gymru o Ardal Risg Isel yn Lloegr naill ai gael eu profi cyn symud neu brofi ar ôl symud.

“O gofio lefel y TB yn Ardal TB Isel Cymru, a diffyg unrhyw berthynas rhwng risg TB a threfn brofi flynyddol Cymru, mae UAC wedi ysgrifennu at Defra i ofyn am eglurder ynghylch y broses o wneud penderfyniadau a arweiniodd at barhau gyda’r drefn bresennol o brofi ar ôl symud ar draws y ffin.”

Mae UAC yn credu bod y drefn o brofi’n flynyddol sy’n digwydd yng Nghymru yn golygu bod y nifer gwirioneddol o ddadansoddiadau nas datgelir yn debygol o fod yn gymharol fach. Felly, mae canlyniad y trafod hwn yn ddiangen ac mae UAC yn aros am ohebiaeth gan Defra ar y gwerthusiad gwyddonol a ddefnyddir yn y broses o wneud penderfyniadau.

“Bydd aelodau UAC yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau’r rhan allweddol hon o’r cynigion newydd cyn lansio’r rheoliadau newydd.

“Yng ngoleuni trafodaethau Brexit yn y dyfodol, mae’r safbwynt a gymerwyd gan Defra ar y mater hwn yn annerbyniol. Os na all y gweinyddiaethau datganoledig drin ei gilydd gyda rhywfaint o gyfwerth o fewn y DU, yna nid yw’n arwydd da ar gyfer cysylltiadau y tu allan i’r UE yn y dyfodol, ” ychwanegodd Dr Wright.

Author