Home » Gwerin Tyddewi
Cymraeg

Gwerin Tyddewi

Gwyl Werin Tyddewi, 2014

Ar nos Sadwrn Mawrth 14 am 9.15 o’r gloch bydd S4C yn darlledu’r rhaglen ddogfen ‘Ryland & Roisin-Clancy Cymru’ sy’n dilyn y broses o wahodd cerddorion i ffurfio’r band newydd, Clancy Cymru, ac fe gawn gyfle i ddod i adnabod teuluoedd Ryland a Roisin a chlywed am ddylanwadau cerddorol y ddau.

Ar nos Sul Mawrth 15 am 8.00 o’r gloch mae cyfle i fwynhau uchafbwyntiau Gŵyl Werin y Pererin yn Nhyddewi 2014 ac mae criw o gerddorion wedi teithio o Iwerddon i roi clo arbennig i’r cyngerdd. Cafodd y canwr Ryland Teifi a’i wraig Roisin Clancy gomisiwn i ffurfio grŵp newydd sbon ar gyfer yr ŵyl i ddathlu’r cysylltiad clos rhwng y rhan yma o Gymru a’r Ynys Werdd. Mae Roisin yn ferch i Bobby Clancy un o’r Brodyr Clancy enwog ac mae’r rhan fwyaf o’r grŵp newydd Clancy Cymru yn ddisgynyddion i’r brodyr. Yr artistiaid eraill yw Calan, Honey Fungus, Dyson’s Wake a Dave Burns sy’n aelod gwreiddiol o’r Hennessys ac Ar Log.

Author