Home » Osi Rhys Osmond wedi marw
Cymraeg

Osi Rhys Osmond wedi marw

Osi Rhys Osmond, sydd wedi marw

MAE’R ARTIST adnabyddus Osi Rhys Osmond wedi marw yn dilyn brwydr hir â chanser.

Roedd Osmond, oedd yn enedigol o Sirhywi yng Nghymoedd y De, yn adnabyddus fel arlunydd gwleidyddol a chyflwynydd radio a theledu, ac roedd yn byw yn Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin yn fwy diweddar.

Yn 2006, fe gyflwynodd gyfres ‘Byd o Liw’ ar S4C, ac roedd yn gyfrannwr cyson i raglenni radio ar Radio 2 a Radio 3.

Roedd hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006.

Yn 2012, cyflwynodd Osmond gyfres ‘The Exhibitionists’.

Roedd yn gyfrannwr cyson i nifer o gyfnodolion Cymreig gan gynnwys Planet, New Welsh Review, Tu Chwith, Barn a Golwg.

Yn 2013, daeth yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Author