Home » ‘Pêr Ganiedydd Cymru’
Cymraeg

‘Pêr Ganiedydd Cymru’

BYDD 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn yn wedi nodi gyda digwyddiad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Hydref.

Bydd arddangosfa wedi’i threfnu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei dadorchuddio, i ddathlu emynydd mwyaf cynhyrchiol Cymru ac un o feirdd a llenorion mwyaf y wlad.

Bydd côr staff y Llyfrgell Genedlaethol yn perfformio sawl trefniant o emynau adnabyddus Pantycelyn yn ystod y digwyddiad, a bydd portread newydd o William Williams gan yr artist o Benarth, Ivor Davies, yn cael ei ddadorchuddio. Bydd yr Athro Wyn James hefyd yn rhoi cyflwyniad byr ar fywyd a gwaith Pantycelyn.

Priodolwyd mwy na 900 o emynau i William Williams Pantycelyn, gan gynnwys un o enwogion Cymru – “Arglwydd, arwain trwy’r Anialwch” – a elwir gan amlaf yn ‘Bread of Heaven’, a chaiff ei chanu yn ystod digwyddiadau chwaraeon.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae’n bwysig ein bod ni fel Cynulliad yn cydnabod cyfraniad William Williams Pantycelyn wrth gyfoethogi treftadaeth ein cenedl. Yn ogystal â bod yn un o arweinwyr mwyaf yr Adfywiad Efengylaidd yn y ddeunawfed ganrif, roedd hefyd yn fardd ac yn awdur emynau heb ei ail.”

Mae’r portread o Williams, gan Ivor Davies, wedi’i seilio ar yr unig fraslun y gwyddys amdano o’r awdur, a gellir dod o hyd i gopïau ar waliau cartrefi ledled Cymru. Fel plentyn, roedd hwn yn llun cyfarwydd i Davies ac am flynyddoedd roedd yn ddymuniad ganddo ail-greu’r portread clasurol ac eiconig hwn​.​

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru: “Fel Prif Weinidog, rwy’n falch iawn o allu ymuno â’r Llyfrgell Genedlaethol heddiw i goffáu bywyd a gwaith un o’n pobl mwyaf dawnus a disglair a adawodd etifeddiaeth gyfoethog o emynau i’r genedl, sy’n cael eu canu ar hyd a lled y byd mewn llawer o ieithoedd.”

Bydd yr artist o Geredigion, Wynne Melville Jones, yn arddangos ei baentiad o Bantycelyn, cartref William Williams, a greodd yn gynharach eleni i nodi 300 mlynedd ers geni’r bardd, ac i ddathlu ei gyfraniad enfawr i fywyd crefyddol, diwylliannol a chenedlaethol Cymru.

Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Gellir dadlau’n hawdd mai William Williams sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar agwedd a meddylfryd pobl Cymru ers y ddeunawfed ganrif, a bod ei emynau a’i weithiau llenyddol – a rhai ei gyfoeswyr yn y diwygiad – wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad radicaliaeth Gymreig sy’n dal i ddylanwadu ar ein polisi cymdeithasol yng Nghymru heddiw.”

Author