Home » YDDS yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni
Cymraeg

YDDS yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni

Osi Rhys Osmond: Film fer yn ennill BAFTA Cymru
Osi Rhys Osmond: Film fer yn ennill BAFTA Cymru

MAE PRIFYSGOL Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu heddiw ar ôl i ddau enwebiad y bu’r Brifysgol yn gysylltiedig â nhw ennill eu categorïau priodol yn Seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru neithiwr yng Nghaerdydd.

Ffilm fer yn dilyn yr artist Cymreig diweddar Osi Rhys Osmond, a gafodd ei chefnogi gan y Brifysgol a Chanolfan Gofal Maggies, enillodd y categori Ffilm Fer orau, tra gwnaeth cyfres yn dilyn cynhyrchiad o Les Miserables, eto gyda chefnogaeth Y Drindod Dewi Sant, ennill y categori’r Rhaglen Adloniant orau.

Fe noddodd y Brifysgol hefyd y categori Effeithiau Arbennig a Gweledol, Teitlau a Hunaniaeth Graffeg Arbennig a enillwyd gan dîm cynhyrchu Doctor Who.

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Creadigol Brightest Films, Clare Sturges, ennill ei hail wobr BAFTA Cymru o’i gyrfa gyda’r ffilm fer ddogfennol, My Brief Eternity: Ar Awyr Le.

Mae’r rhaglen ddogfen yn dilyn yr artist a chyn-ddarlithydd Y Drindod Dewi Sant, Osi Rhys Osmond, wrth iddo greu ei ddarn olaf o waith ar gyfer Canolfan Maggies De Ddwyrain Cymru yn ystod ei gyfnodau olaf o’i ganser datblygedig.

Yn anffodus, bu farw Osi yn fuan wedi i’r ffilmio gorffen ym Mawrth 2015.

“Mae’n wych i ennill fy ail wobr BAFTA Cymru – y tro hwn ar gyfer rhaglen ddogfen fer sy’n cynnwys cymaint o rinweddau ysbrydoledig,” meddai Clare.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ffilm yn parhau i gyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd, gan gynnwys pawb sy’n dod i Ganolfan Maggies yng Nghymru ac ar draws y DU. Roedd Osi yn ddyn o fewnwelediadau mawr: rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i ddogfennu rhan fechan o’r hyn oedd ganddo i’w rhannu.”

Dywedodd Sarah Hughes, Pennaeth Canolfan Maggies yn ne-orllewin Cymru, “Rydym wrth ein bodd bod My Brief Eternity wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Mae’r ffilm hon yn brosiect dilys a phwerus i godi ymwybyddiaeth o ganser ac o Maggies ar draws Cymru, gan herio rhagdybiaethau pobl ac ysbrydoli’r rhai sy’n byw gyda chanser.”

Dywedodd Dr Ian Walsh, Deon Cyfadran Celf a Dylunio yn Y Drindod Dewi Sant: “Roedd Osi Rhys Osmond yn arlunydd angerddol ac yn Gymro balch. Cafodd ei garu a’i barchu gan ei gydweithwyr a’i fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae ei etifeddiaeth yn amlwg i’w weld ym mywydau a gwaith cymaint o artistiaid ifanc yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n briodol bod y ffilm ddynol a phersonol hon, sy’n cyfleu hanfod y dyn, wedi derbyn anrhydedd o’r fath. Mae’r Brifysgol yn falch o fod wedi medru cefnogi’r cynhyrchiad ac ry’n ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad.”

online casinos UK

Parhaodd llwyddiant y Brifysgol yn y categori Rhaglen Adloniant gyda Les Misérables, Y Daith i’r Llwyfan – cyfres a gynhyrchwyd gan Rondo Media yn dilyn Cwmni Theatr yr Urdd yn llwyfannu’r sioe gerdd – yn ennill y wobr.

Roedd Les Misérables – Y Daith i’r Llwyfan yn cynnig cipolwg tu ôl i’r llenni o’r cynhyrchiad Cymraeg a oedd yn cynnwys cast o 130 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Fe wnaeth Y Drindod Dewi Sant, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac Ysgol Glanaethwy gyflwyno’r cynhyrchiad cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd fis Hydref diwethaf i ddathlu deng-mlwyddiant agoriad swyddogol Canolfan Mileniwm Cymru a Gwersyll yr Urdd Caerdydd.

Roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol, fel yr oedd y bartneriaeth rhwng Y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru – cydweithrediad sydd eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy ennill Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru 2016 ar gyfer y Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand.

“Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiant Rondo Media yn y category Adloniant Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru neithiwr gyda’r gyfres Les Misérables – Y Daith i’r Llwyfan,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Pro Is Ganghellor Cysylltiol Y Drindod Dewi Sant.

“Rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â chynhyrchiad gwych a roddodd cyfleoedd i gymaint o bobl ifanc o bob cwr o Gymru i gymryd rhan ac i berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r prosiect.”

Mae gan Y Drindod Dewi Sant enw da am gynnig amrywiaeth o gyrsiau yn y diwydiannau creadigol – o gelf a dylunio i theatr a pherfformio. Mae nifer ac ystod y cyrsiau a gynigir gan y Brifysgol hefyd yn mynd i dyfu ac esblygu dros y blynyddoedd nesaf i gyd-fynd â datblygiad Canolfan S4C Yr Egin a fydd yn cael ei sefydlu ar gampws Caerfyrddin.

Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad a fydd yn gartref i glwstwr o gwmnïau a sefydliadau o’r diwydiannau creadigol a digidol yn ogystal â bod yn gartref newydd o brif bencadlys S4C. Bydd y ganolfan yn agor yn gynnar yn 2018.

Author