Home » Myfyriwr yn cael ei ethol fel Swyddog Iaith Gymraeg UCM Cymru
Cymraeg

Myfyriwr yn cael ei ethol fel Swyddog Iaith Gymraeg UCM Cymru

"Mae bod yn Gymro yn fater o hunaniaeth ddiwylliannol felly rwy’n meddwl bod yr iaith yn bwysig.”

SIÔN DAVIES o Lanelli yw’r myfyriwr cyntaf o’r sector addysg bellach i gael ei ethol fel Swyddog yr Iaith Gymraeg ar gyfer Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.

Hefyd Siôn, sy’n astudio pynciau Safon Uwch gan gynnwys y Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr, yw’r siaradwr Cymraeg ail-iaith cyntaf erioed i gael ei benodi i’r swydd.

Cafodd Siôn ei ysbrydoli i ddysgu’r iaith gan ei athrawes ysgol uwchradd ac roedd ym mlwyddyn 11 yn yr ysgol pan ddysgodd siarad Cymraeg. “Roeddwn yn ffodus iawn i gael athrawes Gymraeg dda iawn yn Ysgol Gyfun Sant Ioan Llwyd,” meddai. “Roedd yn frwdfrydig iawn ac fe wnaeth hyn ysbrydoli rhywbeth ynof. Mae bod yn Gymro yn fater o hunaniaeth ddiwylliannol felly rwy’n meddwl bod yr iaith yn bwysig.”

Mae’r myfyriwr 17 oed eisoes wedi gwneud cynnydd arwyddocaol yn ei rôl, er nad yw’n dechrau yn swyddogol tan fis Gorffennaf. Mae’n annog UCM Cymru i ymgorffori Siarter Cymraeg ar gyfer addysg bellach; mae wedi ysgrifennu polisi yn ymwneud â safbwynt swyddogol yr undeb ynghylch datganoli a bydd yn gweithredu’n awtomatig fel cadeirydd mudiadau rhyddhad iaith Gymraeg UCM Cymru. Mae Siôn hefyd yn aelod o fwrdd ColegauCymru a Choleg Cenedlaethol Cymru yn ogystal â bod yn gadeirydd ar gyfer cymdeithas Gymraeg Coleg Sir Gâr. “Rhan o’m gwaith gyda’r gymdeithas yw hyrwyddo gigs ac rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth ag Ysgol y Strade,” meddai Siôn. “Rwy’n teimlo bod hyn yn cynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg gymdeithasu gan ddefnyddio eu hiaith ddewisol, a thra bod gan draddodiad rôl bwysig, mae digwyddiadau fel hyn yn moderneiddio’r ffordd y mae pobl yn draddodiadol yn canfod y diwylliant.”

Bydd Siôn yn cynrychioli myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch gan weithio gyda phrifysgolion a cholegau ar draws Cymru tan fis Gorffennaf 2016.

Author