Home » Byw yng Nghymru: Dysgu’n Gymraeg?
Cymraeg

Byw yng Nghymru: Dysgu’n Gymraeg?

Dysgu’n GymraegLANSIODD Y PRIF Weinidog yr ymgyrch yn Ysgol Gymraeg Trelyn, y Coed-duon, lle bu’n cwrdd â rhieni ac yn darllen stori Gymraeg i blant yn y dosbarth derbyn.

Bydd yr ymgyrch tair blynedd yn targedu rhieni sydd ar fin cael plentyn a rhieni sydd â phlant 0-3 oed ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor iddynt fel y bo ganddyn nhw’r holl wybodaeth pan fyddan nhw’n penderfynu a ydyn nhw am anfon eu plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol ddwyieithog ai peidio. Nod yr ymgyrch yw chwalu rhai o’r rhagdybiaethau am addysg cyfrwng Cymraeg.

Siaradodd y Prif Weinidog â rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg am eu profiad o anfon eu plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Dydy rhieni ddim bob amser yn ymwybodol o ysgolion cyfrwng Cymraeg neu maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael gwybodaeth am ysgolion o’r fath. Bydd yr ymgyrch hon fydd yn para am dair blynedd yn codi ymwybyddiaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog fel y gall rhieni wneud eu penderfyniad ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael ar eu cyfer.”

“Rwy’n deall pryderon rhai rhieni ynghylch anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn enwedig os nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg. Bydd yr ymgyrch hon yn sicrhau bod rhieni yn derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn iddynt fod yn hyderus bod eu dewis yn gywir iddyn nhw a’u plant beth bynnag ydyw.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis:

“Nod ein hymgyrch Byw yng Nghymru: Dysgu yn Gymraeg? yw chwalu rhai o’r rhagdybiaethau am addysg cyfrwng Cymraeg er enghraifft nad oes modd i rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg helpu eu plant gyda’u gwaith cartref a’u datblygiad.

“Gall addysg cyfrwng Gymraeg fod yn gyfrwng i roi sgiliau newydd i blant a gall hefyd fod yn brofiad y gallan nhw elwa’n fawr arno. Gwyddom fod rhai rhieni yn ansicr am nad ydyn nhw’n gwybod am y cymorth sydd ar gael i rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg. Nod ein hymgyrch yw rhoi gwybodaeth a sicrwydd i rieni wrth iddyn nhw wneud y penderfyniad anodd am addysg eu plant.”

Author