Home » Gafael yn dy gragen
Cymraeg

Gafael yn dy gragen

Gafael yn dy gragenMAE’R CRWBANOD Ninja, a grëwyd yn wreiddiol ar ffurf comic nôl ym 1984 yn dilyn hynt a helynt Leonardo, Michaelangelo, Donatello a Raphael, pedwar crwban mwtant sydd wedi cael eu hyfforddi i ymladd mewn arddull ninjutsu gan y llygoden fawr, Sgrygyn.

Pan mae Sgrygyn yn caniatáu i’r Crwbanod Ninja adael eu ffau yn nraeniau’r ddinas mae’r pedwar brawd yn gweld sut le yw’r byd go iawn; lle sy’n llawn o ddihirod hynod ddychrynllyd a pizzas hynod flasus!Yn ôl Emyr Roberts, cyfarwyddwr trosleisio’r gyfres gyda chwmni Lefel 2, hwn yw un o’r prosiectau mwyaf cyffrous iddo weithio arno erioed.

“Mae pawb sydd yn gweithio ar y prosiect wedi eu cyffroi gyda’r Crwbanod! Yn wir, ers gweithio fel cyfarwyddwr trosleisio, a hynny am flynyddoedd bellach, gallaf ddweud a fy llaw ar fy nghalon mai dyma’r cynhyrchiad sydd wedi cael pawb sy’n cyfrannu yn gwirioni fwyaf. Boed hynny fel rhywun a’u gwyliodd yn eu plentyndod neu sydd â phlant eu hunain sydd yn meddwl bod y ffaith bod dad yn gweithio ar y Ninja Turtles yn awesome!” meddai Emyr Roberts,

“Mae o’n bleser dod i’r gwaith gyda’r ffasiwn frwdfrydedd, a gyda’r ffasiwn griw, yn sgriptiwr a chast.”Mae’r criw lleisio yn cynnwys Llŷr Evans, Rhodri Meilir, Rhydian Lewis, Dyfrig Evans, Rhodri Evan, Aneirin Hughes, Manon Wilkinson a Hefin Wyn.

Dewi Prysor, yr awdur a’r hanesydd o Drawsfynydd, sydd wedi bod wrthi’n brysur yn addasu’r gyfres i’r Gymraeg.

“Tydi tafodiaith stryd Efrog Newydd ddim yn gweithio yn y Gymraeg, wrth gwrs, felly mi oedd rhaid rhoi tafodiaith Gymraeg drefol, naturiol iddyn nhw, gan wneud hynny heb golli’r agwedd a’r slicrwydd a’r ‘cŵl’ – a heb amharu ar gymeriadau’r crwbanod eu hunain,” meddai Dewi Prysor.

“Ond fel tad i feibion yn eu harddegau, doedd hynny ddim yn anodd i mi.”

“Mae hi’n gyfres gyffrous, slic a blaengar sydd hefyd yn drawiadol iawn yn weledol. Yn fwy na hynny, mae hi’n hynod ddigri, gyda’r hiwmor hwnnw a’i elfennau tywyll a slapstic, yn apelio’n berffaith imi. Gofynnwch i fy nheulu ac mi fyddan nhw’n dweud wrthych chi eu bod yn clywed ffitiau piws o chwerthin a gigyls afreolus yn dod o’r stafall lle dwi’n gweithio!”

Pam bod S4C wedi penderfynu comisiynu’r addasiad felly?

“S’dim dwywaith bod y Crwbanod Ninja yn un o’r cyfresi mwya’ eiconig erioed a dyma gyfle i genhedlaeth newydd fwynhau anturiaethau’r pedwar crwban anhygoel, a hynny yn Gymraeg,” meddai Sioned Wyn Roberts, comisiynydd rhaglenni plant S4C.

online casinos UK

“Y peth anodda’ oedd penderfynu sut i gyfieithu’r teitl!”

Author