Home » Sgwrs Nigel Owens yn ddiffuant mewn
Cymraeg

Sgwrs Nigel Owens yn ddiffuant mewn

nigel owensBU’R DYFARNWR rygbi rhyngwladol byd-enwog, Nigel Owens, yn siarad yn agored am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau yn ei fywyd yn ystod darlith ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yng Nghaerfyrddin.

Mae Nigel Owens wedi cyrraedd brig ei broffesiwn, gan ddyfarnu mewn cystadlaethau sydd wedi cael eu sgrinio i gynulleidfaoedd dros y byd, megis yng Nghwpanau Rygbi’r Byd 2007 a 2011, yn ogystal â mewn cystadlaethau mawreddog eraill megis y Cwpan Heineken.

Cafodd ei eni a’i fagu ym mhentref bach Mynyddcerrig yng Nghwm Gwendraeth, a mae gwaith blaenorol Owens yn cynnwys gweithio fel technegydd yn Ysgol Gyfun Maes Yr Yrfa Cefneithin a hefyd fel gweithiwr ieuenctid gyda Menter Cwm Gwendraeth.

Fodd bynnag, fel darganfyddodd y dorf fawr yn ddiweddar yn Narlith Cynhwysiad Cymdeithasol y Brifysgol, mae’r llwybr y mae Owens wedi cymryd i lwyddiant wedi bod yn anodd weithiau. Mae wedi dioddef o bwlimia, wedi cael trafferth gyda’i rywioldeb ac wedi ceisio cyflawni hunanladdiad, i gyd cyn cyrraedd pump ar hugain.

“Yr her fwyaf sy’n ein wynebu yn unigol yw derbyn ein hunain bod gennym broblem, gan dderbyn pwy ydym ni. Pan fyddwch wedi derbyn hynny, pan fyddwch wedi derbyn eich bod yn cael anhawster ac yn derbyn pwy ydych chi, dim ond wedyn y gallwch droi i rywun a gofyn am help.”

Ym mis Mai 2007 daeth Owens yn gyhoeddus fel dyn hoyw mewn cyfweliad gyda Wales on Sunday.

Dywedodd wrth y gynulleidfa: “Pan wnes i dderbyn pwy oeddwn i, roeddwn i’n gallu symud ymlaen gyda fy mywyd. Roedd y pwysau a’r baich wedi mynd a roeddwn i’n gallu mynd allan a mwynhau yr hyn yr oeddwn i wir eisiau ei wneud, dyfarnu.”

Mae Nigel Owens wedi ymddangos fel ffigwr uchel ei barch ym myd rygbi oherwydd ei berfformiadau awdurdodol ar y cae. Cafodd Owens ei benodi fel dyfarnwr rhyngwladol yn 2005 pan ddyfarnodd Japan v Iwerddon yn Osaka ac yn ddiweddar, yng ngêm Seland Newydd v Ffrainc, daeth yn ddyfarnwr rhyngwladol sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau erioed i Gymru.

Yn rhyfeddol, mae Owens wedi casglu 47 o gapiau rhyngwladol yn ystod ei yrfa ac mae’n un o ddau unigolyn erioed sydd wedi cael eu penodi i ddyfarnu rownd derfynol y Cwpan Heineken am ddwy flynedd yn olynol. Dyfarnodd yng ngêm Munster v Toulouse yn 2008 yn Stadiwm y Mileniwm a Leinster v Leicester yn 2009 yn Murrayfield. Yn 2012, dyfarnodd ei drydydd rownd derfynol yn y Cwpan Heineken, Leinster v Ulster yn Nhwickenham, a mae Owens yn dal y record am y nifer mwyaf o rowndiau terfynol yn Ewrop gyda chyfanswm o bump.

Mae llawer yn adnabod Owens hefyd fel un o gyflwynwyr ‘Jonathan’, sioe sgwrsio Cymraeg ar thema rygbi a gynhaliwyd gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jonathan Davies, a ddarlledir ar S4C ar y noson cyn gemau rhyngwladol mawr. Yn ogystal, eleni mae Owens wedi lansio sioe bywiog ei hun, ‘Munud i Fynd’.

online casinos UK

Ym mis Tachwedd 2008 rhyddhaodd Owens ei hunangofiant, ‘Hanner Amser’. Cafodd y fersiwn Saesneg ei lansio ar ddiwedd Hydref 2009 ac yn 2011 fe gafodd ei wneud yn aelod o Orsedd y Beirdd.

Dywedodd yr Athro Cyswllt Sue Davies, Pennaeth yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn PCYDDS: “Rhoddodd Nigel Owens sgwrs ysbrydoledig ar ei brofiadau ar ac oddi ar y cae rygbi, o ran pwysigrwydd cymdeithas gynhwysol. Rhoddodd neges glir o sut y dylem ni i gyd barchu gwahaniaethau o fewn cymdeithas a’i chymunedau, lle mae amrywiaeth yn cael ei groesawu a mae pawb yn gyfartal.”

Author