Home » Siôn Corn yn ymuno â hwyl yr ŵyl yn y Parc
Cymraeg

Siôn Corn yn ymuno â hwyl yr ŵyl yn y Parc

Siôn Corn yn ymuno â hwyl yr ŵyl yn y ParcCAIFF SANTA AMSER i wibio heibio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod y cyfnod prysur cyn y Nadolig.

Daw â sach o anrhegion gydag ef i’r Farchnad Nadolig yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi, ar Ddydd Sadwrn, Rhagfyr
7fed, cyn symud ymlaen i Gastell Caeriw lle bydd yn ymuno yn hwyl Marchnad Nadolig arall ar Ddydd Sul, Rhagfyr 8fed.

Hwyl yr ŵyl ar gael ym Marchnadoedd Nadolig Galeri Oriel y Parc a’r Ganolfan Groeso a Chastell Caeriw ar Ragfyr 7fed ac 8fed (yn ôl eu trefn)

Yn Oriel y Parc bydd Santa a’r holl ymwelwyr yn cael eu diddanu gan Fand Pres Wdig a Chôr Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a bydd cyfle i brynu anrhegion, o grefftau, gemwaith ac offer cartref rhagorol i ddillad ar gyfer cŵn. Bydd gwin cynnes a mins peis ar werth yng nghaffi Oriel y Parc.Cynhelir Marchnad Nadolig Oriel y Parc o 10am tan 4pm ar Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 7fed ac mae’r mynediad am ddim. Bydd Santa yn ei groto ac am £1.50 y plentyn mae cyfle i eistedd gydag ef a chael rhodd, Am fwy o fanylion ffoniwch 01437 720392.

Bydd difyrrwch canoloesol yng Nghastell Caeriw ar y Dydd Sul, gydag Ysglyfwyr Doc Penfro yn arddangos adar ysglyfaethus a bydd cyfle i archwilio’r castell cyn i chi gwrdd â Santa yn ei groto, Mae stondinau y Farchnad Nadolig yn cynnwys cacennau, crefftau, ffotograffiaeth, gemwaith, goleuadau, addurniadau Nadolig, crefftau coed, teganau meddal a rhoddion wedi’u hailgylchu.

Cynhelir Marchnad Nadolig Castell Caeriw o 11am tan 3pm ar Ddydd Sul, Rhagfyr 8fed, ac mae mynediad i’r Castell yn £4 i oedolion (mynediad am ddim i blant) gyda diod yr ŵyl a mins pei. Bydd Santa yn ei groto ac am £1.50 y plentyn mae cyfle i eistedd gydag ef a chael rhodd. Am fwy o fanylion ffoniwch 01646 651782.

Author