Home » Curwch Ffliw
Cymraeg

Curwch Ffliw

MAE’R YMGYRCH genedlaethol i annog pobl mewn grwpiau cymwys ledled Cymru i gael brechiad i’w gwarchod rhag y ffliw wedi lansio Dydd Llun, 2 Hydref.

Mae’r ymgyrch Curwch Ffliw, o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn annog y rhai sydd ei angen fwyaf i gael eu gwarchod bob blwyddyn rhag y ffliw, sy’n afiechyd sy’n gallu bod yn beryglus.

Yn y grwpiau cymwys mae merched beichiog, pobl â chyflyrau iechyd tymor hir cronig, a phawb 65 oed a hŷn.

Mae plant rhwng dwy ac wyth oed yn gymwys hefyd wrth i’r rhaglen frechu ar gyfer plant gael ei hymestyn eto eleni. Pigiad bach yw’r brechiad ar gyfer oedolion, ond i blant chwistrell trwyn syml yw’r brechiad.

Gall plant rhwng dwy a thair oed dderbyn y brechiad drwy chwistrell trwyn yn eu meddygfa a bydd y rhai yn y dosbarth derbyn ac ym mlynyddoedd ysgol 1, 2, 3 a 4 yn gallu ei gael yn yr ysgol.

Mae’r Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer (nodwch y bwrdd iechyd), yn annog pawb cymwys i gael brechiad y ffliw.

Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans AC ei bod yn hanfodol bod y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn manteisio ar y brechiad am ddim: “Mae ffliw yn gallu bod yn salwch sy’n peryglu bywyd i rai pobl sy’n wynebu risg oherwydd eu hoedran, problem iechyd sylfaenol, neu am eu bod yn feichiog. Yn anffodus, mae ffliw yn lladd pobl yng Nghymru bob blwyddyn.

“Mae ffliw yn lledaenu’n rhwydd iawn. Bydd ymestyn y rhaglen i gynnwys mwy o blant eleni’n helpu i’w gwarchod rhag dal y ffliw, a bydd hefyd yn eu hatal rhag ei ledaenu i eraill yn y gymuned sy’n agored iawn i niwed efallai. Y llynedd, roedd y brechiad i blant yn effeithiol iawn ac mae’n braf gwybod bod cymaint o bobl ifanc wedi cael eu gwarchod.

“Mae pobl yn gallu bod yn ddifrifol wael gyda’r ffliw a brechiad y ffliw yw’r ffordd orau o warchod rhagddo, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich gwarchod yn fuan, er eich lles chi a phobl eraill.”

Er bod y rhan fwyaf o frechiadau ffliw y GIG yn cael eu rhoi mewn meddygfeydd, mae brechiadau i oedolion ar gael mewn llawer o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.

online casinos UK

Hefyd mae gan ofalwyr, gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf mewn argyfwng ac Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol hawl i gael y brechiad. Mae hefyd yn cael ei argymell i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, i’w gwarchod hwy a’r rhai yn eu gofal. Gallant siarad â’u hadran iechyd galwedigaethol neu eu cyflogwr am ble a phryd allant gael eu brechiad.

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bob blwyddyn mae feirysau’r ffliw yn yr aer, gan wneud llawer o bobl yn sâl a bydd rhai’n wynebu sefyllfaoedd sy’n peryglu eu bywydau. Y llynedd cadarnhawyd bod gan 74 o gleifion yn unedau gofal dwys Cymru y ffliw.

“Mae feirws y ffliw’n gallu newid yn rheolaidd ac mae gwarchodaeth y brechiad yn gwanio gydag amser, felly os ydych chi mewn grŵp risg ac wedi cael y brechiad y llynedd, mae dal yn bwysig cael eich brechu eleni, fel eich bod wedi’ch gwarchod dros y gaeaf yma.

“Cael eich brechu rhag y ffliw bob blwyddyn yw’r ffordd unigol orau o warchod rhag dal neu ledaenu salwch sy’n gallu bod yn niweidiol iawn. Mae ffliw yn gallu bod yn ddifrifol iawn, hyd yn oed gyda thriniaeth – ond cael eich brechu sy’n cynnig y warchodaeth orau, felly gwnewch yn siŵr ei fod ar dop eich rhestr o bethau i’w gwneud yr hydref yma.”

Author